Harri VIII, brenin Lloegr
Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 – 28 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nhŷ'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII. [1][2][3][4][5][6]
Harri VIII, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1491 Palas Placentia |
Bu farw | 28 Ionawr 1547 o henaint Palas Whitehall |
Swydd | teyrn Lloegr, teyrn Iwerddon, Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd, Iarll Farsial, Lord Warden of the Marches, Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, Dug Iorc, Iarllaeth Caer, Dug Cernyw, Tywysog Cymru, Arglwydd Iwerddon |
Tad | Harri VII |
Mam | Elisabeth o Efrog |
Priod | Catrin o Aragón, Ann Boleyn, Jane Seymour, Ann o Cleves, Catrin Howard, Catrin Parr |
Partner | Elizabeth Blount, Mary Boleyn, Elizabeth Stafford, Countess of Sussex, Joan Dingley, Margaret Shelton, Jane Popincourt, Anne Bassett, Elizabeth Carew, Anne Hastings |
Plant | Mari I, Henry Fitzroy, Elisabeth I, Edward VI, Harri, Dug Cernyw, merch farw-anedig, Harri, Harri, ail ferch farw-anedig, Henry, mab marw-anedig Tudor, Catherine Carey, Ethelreda Malte, Richard Edwardes, Thomas Stukley, Henry Carey |
Perthnasau | Ferrando II, Juan, tywysog Asturias, Felipe I, brenin Castilla, Iago V, brenin yr Alban, Mari, brenhines yr Alban |
Llinach | Tuduriaid |
llofnod | |
Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543).
Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.
Blynyddoedd cynnar: 1491–1509
golyguGanwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog.[7] Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntiwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd (Lord Warden of the Cinque Ports). Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntiwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg.[8] Gan y disgwyliwyd i'w frawd hŷn, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys.[9]
Marwolaeth Arthur
golyguYm 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgog Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen trwy gynnig Harri yn ŵr i gweddw Arthur, Catrin o Aragón, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Aragón a Isabel I, brenhines Castilla.[10]
Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus "Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas â'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglŷn â chyfreithlondeb y briodas.
Achosodd diffyg amynedd mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab Iŵl II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb.
Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglŷn â tynged y briodas a gynigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri â Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty Westminster.
Teyrnasiad cynnar: 1509–1525
golyguYchydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o deyrnfradwriaeth a dienyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin â'r rhai a safai yn ei ffordd.[7]
Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgolheigaidd a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. "Pastime with Good Company" neu "The Kynges Ballade" yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth.[8]
Ffrainc a'r Hapsburgiaid
golyguYm 1511, datganodd y Pab Iŵl II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfodd y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb Westminster, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratôdd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn ôl ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc,[11] ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddi ar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben.
Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.)
Ei chwe gwraig
golygu- Catrin o Aragón (ysgarwyd ym 1533, bu farw ym 1536)
- Ann Boleyn (dienyddiwyd ym 1536)
- Jane Seymour (bu farw ar ôl rhoi genedigaeth ym 1537)
- Anne o Cleves (ysgarwyd ym 1540, bu farw ym 1557)
- Catrin Howard (dienyddiwyd ym 1542)
- Catrin Parr (bu farw ym 1548)
Gweler hefyd:
Plant
golyguLlyfryddiaeth
golygu- The New World gan Winston Churchill (1966)
- The Reformation Parliament, 1529–1536 gan Stanford E. Lehmberg (1970)
- Henry VIII and his Court gan Neville Williams (1971)
- The Life and Times of Henry VIII gan Robert Lacey (1972)
- The Six Wives of Henry VIII gan Alison Weir (1991) ISBN 0802136834
- English Reformations gan Christopher Haigh (1993)
- Europe: A history gan Norman Davies (1998) ISBN 978-0060974688
- Europe and England in the Sixteenth Century gan T. A. Morris (1998)
- New Worlds, Lost Worlds gan Susan Brigden (2000)
- Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2001)
- British Kings & Queens gan Mike Ashley (2002) ISBN 0786711043
- Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2002) ISBN 034543708X
- Six Wives: The Queens of Henry VIII gan David Starkey (2003) ISBN 0060005505
- The Kings and Queens of England gan Ian Crofton (2006)
- Princes of Wales gan Deborah Fisher (2006) ISBN 9780708320037
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://libris.kb.se/katalogisering/75kmnfnr56xf7cs. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2012.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: http://www.bbc.co.uk/history/people/henry_viii/.
- ↑ Dyddiad marw: http://www.bbc.co.uk/history/people/henry_viii/.
- ↑ Man geni: http://www.britannica.com/EBchecked/topic/245410/Greenwich. http://www.independent.co.uk/travel/uk/travel-by-numbers-greenwich-6350963.html. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 13 Awst 2015.
- ↑ Achos marwolaeth: http://articles.latimes.com/1989-08-30/news/mn-1456_1_henry-viii.
- ↑ 7.0 7.1 Crofton, tud.128.
- ↑ 8.0 8.1 Crofton, tud.129
- ↑ Churchill, tud.29
- ↑ Crofton, tud.126.
- ↑ Guicciardini, History of Italy, 280.
Rhagflaenydd: Harri VII |
Brenin Lloegr 22 Ebrill 1509 – 28 Ionawr 1547 |
Olynydd: Edward VI |
Rhagflaenydd: Arthur Tudur |
Tywysog Cymru 18 Chwefror 1504 – 22 Ebrill 1509 |
Olynydd: Harri Stuart |