Glastonbury

tref yng Ngwlad yr Haf

Tref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Glastonbury.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Mendip.

Glastonbury
Mathplwyf sifil, tref, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Mendip
Poblogaeth8,932, 8,932 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.1485°N 2.714°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04008561 Edit this on Wikidata
Cod OSST501390 Edit this on Wikidata
Cod postBA6 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 8,932.[2]

Mae Caerdydd 48.9 km i ffwrdd o Glastonbury ac mae Llundain yn 185.8 km. Y ddinas agosaf ydy Wells sy'n 7.2 km i ffwrdd.

Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd Ynys Wydrin neu Ynys Wydr,[3] efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".

Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am Joseff o Arimathea yn dwyn y Greal Santaidd i Ynys Brydain, ac a'r chwedlau am y brenin Arthur. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif  :

HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA

"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".

Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.

Gweddillion abaty Glastonbury
Twr yr Ynys Wydrin

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 27 Awst 2021
  2. City Population; adalwyd 28 Awst 2021
  3. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), tud. 205
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.