Radstock

tref yng Ngwlad yr Haf

Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Radstock.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf. Saif 9 milltir (14 km) i'r de-orllewin o Bath, ac 8 milltir (13 km) i'r gogledd-orllewin o Frome. Newidiwyd statws y plwyf yn 2011 i dref, a'r cyngor yn gyngor tref.

Radstock
Offer weindio o bwll glo Kilmersdon gydag Amgueddfa Radstock yn y cefndir
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCaerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.2927°N 2.4477°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012169 Edit this on Wikidata
Cod OSST688549 Edit this on Wikidata
Cod postBA3 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 5,620.[2]

Bu yma aneddiadau ers Oes yr Haearn. Ganrifoedd wedyn, tyfodd y gymuned gan ei fod ar y ffordd Rufeinig y Fosse Way (fossa yw'r gair Lladin am 'ffos') a gysylltai Exeter (Ll: Isca Dumnoniorum) yn Ne-orllewin Lloegr i Lincoln (Ll: Lindum Colonia) yn Swydd Lincoln.[3] Pan ddarganfuwyd glo yn yr ardal yn 1763 agorwyd sawl glofa a thyfodd y gymuned yn sydyn.

Defnyddiodd y Llyngesydd-Arglwydd Radstock, enw'r dref pan wnaethpwyd ef yn farwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 28 Awst 2021
  2. City Population; adalwyd 28 Awst 2021
  3. Blair, Peter Hunter (2003). An Introduction to Anglo-Saxon England. Cambridge University Press. t. 256. ISBN 9780521537773.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.