Porfa

(Ailgyfeiriad o Glaswellt)

Tir pori sef tir gyda gorchudd o lysdyfiant llysieuol yw porfa (neu pawr), a ddefnyddir ar gyfer pori da byw carnol, defaid neu anifeiliaid eraill; digwydd hyn yn aml ar fferm neu ransh neu yn y gwyllt. Cyn dyfodiad ffermio wedi ei fecaneiddio, roedd porfa yn brif ffynhonnell bwyd ar gyfer anifeiliaid sy'n pori megis gwartheg neu geffylau. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n gyffredin, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad yw porfa yn addas ar gyfer unrhyw fath arall o amaeth.

Gwartheg yn pori mewn porfa.

Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y Gymraeg yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 14g.[1] Megis y caffo'r perchen o'i drichan erw aradwy a phorfa a chynnydd. Mae Salm 23 yn y Beibl yn cyfeirio at borfeydd gwelltog.

Ffactorau hanfodol pan geisir porfa fras yw: tymheredd heb fod yn rhy isel, glaw a math o bridd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol lll; tudalen 2851:
Chwiliwch am porfa
yn Wiciadur.