Carnolyn

(Ailgyfeiriad o Carnol)
Carnolyn
Amrediad amseryddol: Paleosen
-hyd yn ddiweddar, 65–0 Miliwn o fl. CP
Yn fwy na phosib:
o'r Cyfnod Cretasaidd hwyr-Presennol
Asyn, Equus africanus
Dolffin trwynbwl cyffredin, Tursiops truncatus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamalia
Inffradosbarth: Eutheria
Uwchurdd: Laurasiatheria
Ddim wedi'i restru: Carnolyn
Orders

Carnolyn eilrif-fyseddog
Carnolyn odfyseddog
see text

Grŵp enfawr ac amrywiol o famaliaid pedwartroed carnog yw carnolion. Maent fel arfer yn byw yn yrroedd gyda'i gilydd ar dir agored lle mae digon o laswellt neu ddail. Mae'r ddafad yn garnolyn yn ogystal a'r ceffyl, y fuwch, y jiráff, y camel, y carw, yr afonfarch, y morfil a'r dolffin.

Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi eu holl bwysau ar flaeanau eu carnau, tra'n symud. Ar wahân i'r mochyn, maent i gyd yn llysysyddion. Hyd at yn ddiweddar nid ystyriwyd y morfilogion (y morfil, y llamhidydd a'r dolffin) yn garnolion gan nad ydynt yn rhanu'r un priodweddau a chymeriad. Bellach, fodd bynnag, fe'u hystyrir yn perthyn i'r carnolyn eilrif-fyseddog.[1]

Arferid cyfri'r carnolyn yn urdd, ond bellach mae wedi'r rannu i'r canlynol:

Ceir cryn anghytundeb am hyn, fodd bynnag ymhlith y gwyddonwyr.

Cyfeiriadau

golygu