Glawcoma
Mae Glawcoma yn grwp o glefydau y llygad sy'n achosi difrod i'r nerf optig ac yn arwain at golli golwg.[1]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd y llygad, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y math mwyaf cyffredin yw glwcoma ongl-agored gyda mathau llai cyffredin yn cynnwys glawcoma ongl-gaeedig a glawcoma tensiwn-normal. Mae glawcoma ongl-agored yn datblygu yn araf dros amser a heb boen. Gall golwg ochr ddechrau lleihau ac yna'r golwg canolog gan arwain at ddallineb os nad yw'n cael ei drin. Gall glawcoma ongl-gaeedig gael ei gyflwyno'n raddol neu'n sydyn. Gall cyflwyniad sydyn fod yn boenus tu hwnt, gyda'r golwg yn aneglur, cannwyll lledagored, cochni yn y llygad, a chyfog.[2] Mae colli golwg o ganlyniad i glawcoma, unwaith y mae wedi digwydd, yn barhaol.
Mae'r ffactorau risg ar gyfer glawcoma yn cynnwys cynnydd ym mhwysedd y llygad, hanes o'r cyflwr yn y teulu, Cur pen eithafol, pwysedd gwaed uchel, a gordewdra.
Os yw'n cael ei drin yn gynnar mae'n bosibl arafu neu atal datblygiad y clefyd gyda meddyginiaeth, triniaeth laser, neu lawfeddygaeth. Nod y triniaethau hyn yw lleihau pwysedd y llygad. Mae nifer o wahanol ddosbarthiadau o feddyginiaeth glawcoma ar gael. Gall triniaethau laser fod yn effeithiol mewn achosion o glawcoma ongl-agored ac ongl-gaeedig. Gellir defnyddio nifer o wahanol fathau o lawfeddygaethau glawcoma ar bobl nad ydynt yn ymateb yn ddigonol i gamau eraill. Mae trin glawcoma ongl-gaeedig yn fater meddygol brys.
Mae gan tua 6 i 67 miliwn o bobl y byd glawcoma. Yn y 2010au roedd gan tua 2 filiwn o bobl yn yr Unol Daleithiau glawcoma. Mae fwyaf cyffredin ymhlith yr henoed ac mae glawcoma ongl-gaeedig yn fwy cyffredin ymhlith menywod. Gelwir glawcoma weithiau'n "lleidr distaw" am fod colli'r golwg fel arfer yn digwydd yn araf dros gyfnod hir o amser.[3] Yn fyd-eang, glawcoma yw ail achos mwyaf cyffredin dallineb (yn dilyn cataractau).[4] Daw'r gair "glawcoma" o'r hen Roeg glaukos sy'n golygu glas, gwyrdd neu lwyd.[5] Daeth y defnydd o'r gair yn fwy cyffredin ar ôl 1850, gyda datblygiad yr ophthalmosgop sy'n galluogi i ni weld difrod i'r nerf optig.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Facts About Glaucoma". National Eye Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 March 2016. Cyrchwyd 29 March 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Mantravadi, AV; Vadhar, N (September 2015). "Glaucoma". Primary Care (Saunders (Elsevier)) 42 (3): 437–49. doi:10.1016/j.pop.2015.05.008. ISSN 0095-4543. PMID 26319348.
- ↑ "Glaucoma: The 'silent thief' begins to tell its secrets" (Press release). National Eye Institute. 21 January 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2015. https://nei.nih.gov/news/pressreleases/012114.
- ↑ Resnikoff, Serge; Pascolini, Donatella; Etya'Ale, Daniel; Kocur, Ivo; Pararajasegaram, Ramachandra; Pokharel, Gopal P.; Mariotti, Silvio P. (2004). "Global data on visual impairment in the year 2002". Bulletin of the World Health Organization 82 (11): 844–51. doi:10.1590/S0042-96862004001100009. PMC 2623053. PMID 15640920. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2013. http://www.who.int/bulletin/volumes/82/11/resnikoff1104abstract.
- ↑ Leffler, CT; Schwartz, SG; Giliberti, FM; Young, MT; Bermudez, D (2015). "What was Glaucoma Called Before the 20th Century?". Ophthalmology and Eye Diseases (Libertas Academica) 7: 21–33. doi:10.4137/OED.S32004. ISSN 1179-1721. PMC 4601337. PMID 26483611. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 April 2016. http://www.la-press.com/what-was-glaucoma-called-before-the-20th-century-article-a5118-abstract?article_id=5118.
- ↑ "Evolution and impact of eye and vision terms in written English". JAMA Ophthalmology 131 (12): 1625–31. 2013. doi:10.1001/jamaophthalmol.2013.917. PMID 24337558. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 December 2014. http://oculistmd.wordpress.com/article/evolution-and-impact-of-eye-and-vision-terms-in-written-english/.