Gordewdra yw'r cyflwr meddygol hwnnw pan fo lefel uchel o fraster mewn person fel ei fod ef (neu hi) yn methu a gwneud rhai pethau ac yn cael effaith niweidiol ar ei iechyd.[1][2] Ystyrir person yn or-dew pan fo'u cymhareb taldra-pwysau (body mass index (BMI)) yn uwch na 30 kg/m2.[3] Cyrhaeddir y ffigwr hwn drwy gymaru'r taldra (mewn metrau) a'r pwysau (mewn cilogramau).

Gordewdra
Enghraifft o'r canlynolrisg iechyd, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathovernutrition, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defnyddir y gymhareb taldra yn erbyn pwysau i ganfod a ydy person yn or-dew.

Mae gordewdra'n codi'r tebygolrwydd o broblemau sy'n ymwneud â'r galon, clefyd y siwgwr math 2, rhai mathau o gansar, apnea cwsg a chryd y cymalau.[2] Caiff ei achosi drwy orfwyta, diffyg cadw'n heini a rhesymau etifeddol. Ar adegau prin gall hefyd gael ei achosi gan y genynnau, gwendidau yn yr endocrin, meddyginiaethau neu wendid meddwl. Mae'r dystiolaeth mai metaboledd araf ydy'r achos (ac nid gorfwyta) yn wan iawn.[4][5]

Ledled y byd, ystyrir gordewdra yn un o'r prif afiechydon angheuol y gellir ei atal. Mae ar gynnydd ers rhai blynyddoedd ac fe'i ystyrir yn un o brif problemau iechyd cyhoeddus, mewn oedolion a phlant.[6] Mewn rhai rhannau o Ewrop, caiff y claf ei ddychanu; mewn rhannau eraill caiff ei gyfri fel person cyfoethog.[2][7] Yn 2013 diffiniodd Cymdeithas Feddygol America'r cyflwr yn "afiechyd".[8][9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. WHO 2000 p.6
  2. 2.0 2.1 2.2 Haslam DW, James WP (2005). "Obesity". Lancet 366 (9492): 1197–209. doi:10.1016/S0140-6736(05)67483-1. PMID 16198769.
  3. WHO 2000 p.9
  4. Kushner, Robert (2007). Treatment of the Obese Patient (Contemporary Endocrinology). Totowa, NJ: Humana Press. t. 158. ISBN 1-59745-400-1. Cyrchwyd 5 Ebrill 2009.
  5. Adams JP, Murphy PG (Gorffennaf 2000). "Obesity in anaesthesia and intensive care". Br J Anaesth 85 (1): 91–108. doi:10.1093/bja/85.1.91. PMID 10927998. http://bja.oxfordjournals.org/cgi/content/full/85/1/91.
  6. Barness LA, Opitz JM, Gilbert-Barness E (Rhagfyr 2007). "Obesity: genetic, molecular, and environmental aspects". Am. J. Med. Genet. A 143A (24): 3016–34. doi:10.1002/ajmg.a.32035. PMID 18000969.
  7. Woodhouse R (2008). "Obesity in art: A brief overview". Front Horm Res. Frontiers of Hormone Research 36: 271–86. doi:10.1159/000115370. ISBN 978-3-8055-8429-6. PMID 18230908. http://books.google.com/?id=nXRU4Ea1aMkC&pg=PA271&lpg=PA271&dq=Obesity+in+art:+a+brief+overview.
  8. Pollack, Andrew (18 Mehefin 2013). "A.M.A. Recognizes Obesity as a Disease". The New York Times . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-08. Cyrchwyd 2013-10-22. Italic or bold markup not allowed in: |website= (help)
  9. Weinstock, Matthew (21 Mehefin 2013). "The Facts About Obesity". H&HN. American Hospital Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-09. Cyrchwyd 24 Mehefin 2013.