Glyn Houston
Actor Cymreig oedd Glyn Houston (23 Hydref 1925 – 30 Mehefin 2019)[1], a oedd fwyaf adnabyddus am ei waith teledu. Roedd yn frawd iau i'r actor ffilm Donald Houston.[2]
Glyn Houston | |
---|---|
Ganwyd | Glyndwr Desmond Houston 23 Hydref 1925 Cwm Clydach |
Bu farw | 30 Mehefin 2019 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, milwr, actor teledu |
Cysylltir gyda | The Blue Lamp |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Glyndwr Desmond Houston yn 10 Thomas Street, Tonypandy, Sir Forgannwg, yr ail o dri plentyn i Elsie May Jones a'r pêl-droediwr Alex Houston o Dundee.[2][3]. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, ac am gyfnod byr roedd yn gomedïwr yn perfformio i filwyr yn ystod y rhyfel.[4] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar ffilm yn The Blue Lamp yn 1950.[5]
Gyrfa
golyguEfallai mai rhan mwyaf nodedig Houston oedd fel yr asiant llenyddol "Duncan Thomas", yn y gomedi sefyllfa o'r 1980au Keep It in the Family. Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau yn cynnwys The Great Game.[6]
Yn y ffilm Turn The Key Softly roedd yn chwarae cariad i gymeriad a chwaraewyd gan Joan Collins a gweithiodd ochr yn ochr ag enwau mawr fel Clark Gable, Alan Ladd a Lana Turner.
Yn yr 1970au chwaraeodd Bunter, gwas Lord Peter Wimsey gyferbyn Ian Carmichael mewn dramau teledu o sawl stori gan Dorothy Sayers. Canmolwyd ei berfformiad yn y New York Times.[7] Yn ei feirniadaeth o ddramodiad storiau Harriet Vane gan y BBC yn yr 1980au, mae'r adolygydd Marvin Kitman yn dweud mewn camgymeriad fod Houston wedi ei gamgastio fel Bunter. Mewn gwirionedd, yr actor Richard Morant oedd yn portreadu'r cymeriad yn y gyfres honno.[8]
Roedd perfformiadau eraill yn cynnwys My Good Woman (1973–1974), A Horseman Riding By (1978), Inspector Morse, It Ain't Half Hot Mum, Minder a Doomwatch, yn cynnwys y cymeriad "Det Supt Jones" yn Softly, Softly.
Ymddangosodd ddwywaith fel cymeriadau gwahanol yn Doctor Who — fel "Professor Owen Watson" yn The Hand of Fear (1976)[9] ac fel "Colonel Ben Wolsey" yn The Awakening (1984).[10] Yn 1979, chwaraeodd ran y Brawd Cadfael yn addasiad BBC Radio 4 o One Corpse Too Many.
Roedd gan Houston dros ddau gant o gydnabyddiaethau teledu a ffilm,[2] yn dyddio mor gynnar â 1950.[11]
Enillodd Houston wobr arbennig BAFTA Cymru yn Ebrill 2008.[11] Cyhoeddodd hunan-fywgraffiad o'r enw Glyn Houston, A Black and White Actor yn Rhagfyr 2009.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd Houston yn briod â'r actores a model Shirley Lawrence a chafodd ddau o blant.[5] Yn Mai 2000 dadorchuddiodd Cofeb Lofaol yn ei ardal frodorol ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Arweiniodd y teyrngedau i'r miloedd o lowyr a ddioddefodd neu bu farw dros 150 mlynedd o gloddio ym maes glo De Cymru.[12]
Ffilmyddiaeth detholedig
golygu
|
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Glyn Houston – “cariad cyntaf Joan Collins” – wedi marw yn 93 oed , Golwg360, 4 Gorffennaf 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "BFI | Film & TV Database - Houston, Glyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2015-12-23.
- ↑ Welsh Actor Glyn Houston Dies at 93 (3 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2019.
- ↑ 4.0 4.1 WalesOnline - Lifestyle - Actor Glyn Houston opens up in new autobiography
- ↑ 5.0 5.1 WalesOnline - News - South Wales Valleys - Actor Glyn Houston’s autobiography
- ↑ WalesOnline - News - South Wales Valleys - Glyn Houston's book date
- ↑ TV View: Sidekicks - Dimmer Than the Stars, Yet.
- ↑ THE MARVIN KITMAN SHOW: Lord Wimpy's Dilettante Detectiving[dolen farw]
- ↑ BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Hand of Fear
- ↑ BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Awakening
- ↑ 11.0 11.1 WalesOnline - What's On - Actor Glyn Houston’s one regret
- ↑ BBC News | Wales | Memorial marks mining tragedies
- ↑ The Pittsburgh Press: 19 November 1953 - Google News Archive Search
Dolenni allanol
golygu- Glyn Houston ar wefan Internet Movie Database