Maes glo De Cymru

Maes glo De Cymru yw'r mwyaf o'r ddau faes glo yng Nghymru. Mae'n ymestyn am bron 90 milltir o Fae Sant-y-Brid yn y gorllewin i Bont-y-pwl yn y dwyrain gyda rhannau ohono yn siroedd Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Merthyr Tydfil, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Powys.[1]

Pwll Mawr, Blaenafon

Mae'r maes glo yn fasn o greigiau Carbonifferaidd, a ffurfiwyd pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd. Mae natur y glo yn amrywio o un rhan o'r maes i'r llall. Yn Sir Gaerfyrddin, ceid glo carreg, tra'r oedd glo Cwm Rhondda yn lo ager, a ddefnyddid ar gyfer llongau ager.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "South Wales (geological map)". Geological Maps of Selected British Regions (yn Saesneg). Southampton University website. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  2. Graham Day (1 Ionawr 2010). Making Sense of Wales: A Sociological Perspective (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 29–. ISBN 978-0-7083-2310-6.