Glyn James
Gwleidydd oedd yn aelod o Blaid Cymru oedd Glyndwr Powell James, mwy adnabyddus fel Glyn James (26 Mawrth 1925 – 4 Rhagfyr 2010).
Glyn James | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mawrth 1925 |
Bu farw | 4 Rhagfyr 2010 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Ganed ef yn Llangrannog, Ceredigion, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Technegol Morgannwg, Trefforest (Prifysgol Morgannwg yn ddiweddarach). Daeth yn adnabyddus yn niwedd y 1950au, pan sefydlodd Radio Free Wales, wedi i Blaid Cymru gael ei gwahardd rhag darlledu ar y BBC. Etholwyd ef i Gyngor Bwrdeisdref y Rhondda ac yna i Gyngor Sir Canol Morgannwg yn 1961-64 a 1967-69. Daeth yn faer y Rhondda yn 1960, ac yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth seneddol Rhondda mewn saith etholiad rhwng 1955 a 1979.