Mae Plaid Cymru – The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am annibyniaeth i Gymru[9] o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Yr arweinydd presenol yw Rhun ap Iorwerth. Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd ac mae torri trwodd yng Nghymoedd y De yn uchelgais gan y blaid ers blynyddoedd.

Plaid Cymru – The Party of Wales
ArweinyddRhun ap Iorwerth
CadeiryddMarc Jones
Prif WeithredwrOwen Roberts
Llywydd AnrhydeddusDafydd Wigley
Sefydlwyd5 Awst 1925 (1925-08-05)
PencadlysTŷ Gwynfor, Marine Chambers, Anson Court, Atlantic Wharf
Caerdydd, Cymru
CF10 4AL
Asgell yr ifancPlaid Ifanc
Aelodaeth  (2022)increase 10,000 [1]
Rhestr o idiolegauAnnibyniaeth
Cenedlaetholdeb Cymreig
Democratiaeth Sosialaidd [2][3][4]
Amgylcheddaeth [5][6]
Partner rhyngwladolDim
Cysylltiadau EwropeaiddCynghrair Rhydd Ewrop
Grŵp yn Senedd EwropThe Greens–European Free Alliance
LliwGwyrdd
ASau
3 / 40
Tŷ'r Arglwyddi [7]
1 / 790
Senedd Cymru
12 / 60
Llywodraeth leol yng Nghymru [8]
197 / 1,253
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
1 / 4
Gwefan
www.plaid.cymru

Hanes Plaid Cymru golygu

Gweler hefyd: Plaid Genedlaethol Cymru
 
Logo Plaid hyd at 2006

Blynyddoedd cynnar golygu

 
Llechan ar adeilad ym Mhwllheli i gofnodi sefydlu'r Blaid

Roedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth ("Home Rule") i Gymru yn y 19g, ac roedd y Blaid Lafur gynnar yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau.

Sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, mewn cyfarfod a gynhaliwyd Ddydd Mercher wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1925 yn Neuadd Maesgwyn, Pwllheli. Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis, Lewis Valentine a H. R. Jones. Roedd mewn gwirionedd yn uniad o ddau fudiad: Byddin Ymreolwyr Cymru (The Welsh Home Rule Army) a'r Mudiad Cymreig (The Welsh Movement).

Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yn nhridegau'r 20g, daeth J. E. Jones yn ysgrifennydd a threfnydd yn 1930, swydd a ddaliodd hyd 1962. Trefnodd ef nifer o ymgyrchoedd, yn cynnwys ymgyrch i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y BBC, a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y Gymraeg.

Y cyhuddiad o ffasgaeth golygu

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, awgrymodd ambell wrthwynebwr gysylltiadau rhwng arweinwyr Plaid Cymru a mudiadau ffasgaidd Ewrop. Ysgrifennai'r Parchedig Gwilym Davies yn Y Traethodydd (1942), heb dystiolaeth, bod y blaid am sefydlu cyfundrefn unbleidiol a sefydliadau ffasgaidd, gan gynnwys adain barafilwrol, yng Nghymru.[10] Mewn erthygl yn Y Llenor o'r enw "Mae'r gwylliaid ar y ffordd" (1940), lluniai W. J. Gruffydd linell rhwng Hitler a'r Pab, a thrwy hynny fe awgrymai cysylltiad os nad cyfystyredd rhwng ffasgaeth a Chatholigiaeth. Gan fod Saunders Lewis, arweinydd deallusol amlyca'r blaid, yn Babydd, roedd y cyhuddiad yn amlwg.[11] Yn ddiweddarach, adleisiai'r un cyhuddiad gan golofnwyr a ddefnyddiai'r ffugenw John Pennant yn y Western Mail, a'r gwleidyddion Ness Edwards, Jim Griffiths, Leo Abse, a Kim Howells, ac hyd yr 21g gan y Welsh Mirror.[12] Tynnir sylw yn aml at sylwadau gwrth-Semitaidd gan Saunders Lewis, ac edmygedd Ambrose Bebb am Charles Maurras, arweinydd L'Action Française, fel tystiolaeth honedig o wreiddiau ffasgaidd y blaid.[13]

Yn ei lyfr diffiniol ar y pwnc hwn, 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth, ysgrifennai Richard Wyn Jones bod y dystiolaeth mor dila a'r dadleuon mor simsan fel petai'r cyhuddiad o ffasgaeth yn "ymdrech i alltudio Plaid Cymru o gylch trafodaeth wleidyddol yng Nghymru – i'w hesgymuno o sffêr 'y derbyniol'."[14] Nodai bod tair o elfennau pwysicaf ffasgaeth – gwladwriaeth-addoliad, mawrygu trais, a mawrygu arweinydd carismataidd – yn absennol o ideoleg a thraddodiad y blaid, os nad yn hollol groes iddi.[15] Gwelai elfen gref o wrth-Gatholigiaeth mewn cyhuddiadau Gwilym Davies ac W. J. Gruffydd.[16] Yn sicr ceir sawl sylwad gwrth-Semitaidd yn ysgrifau Saunders Lewis, ond nodai Richard Wyn Jones bod y fath ragfarn yn gyffredin ymhlith nifer o drigolion Gwledydd Prydain yn ystod yr oes honno, ac os cyhuddir Lewis yn ffasgwr ar sail hynny'n unig, bu rhaid labelu Winston Churchill, George Orwell, a W. J. Gruffydd ei hun yn ffasgwyr hefyd.[17]

Wedi'r Ail Ryfel Byd golygu

Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Cafwyd cynhadledd stormus ym 1949, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Plaid Weriniaethol Cymru. Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl, er y gwrthwynebiad gan bron pob aelod seneddol o Gymru, cynyddodd y gefnogaeth i Blaid Cymru.

Buddugoliaeth 1966 ymlaen golygu

Enillodd y blaid ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gaeaf 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.

Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerffili ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Merthyr Tudful am gyfnod.

Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Chaerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.

Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol (Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).

Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad Chwefror 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.

Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru golygu

Yn dilyn buddugoliaeth mewn refferendwm a gynhaliwyd ym mis Fedi 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 1999 golygu

Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.

Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 2003 golygu

Collodd y blaid dir yn yr etholiadau, aeth hi lawr i 12 sedd. Serch hynny, parhaodd fel y gwrth-blaid swyddogol yn y Cynulliad.

Yn dilyn yr etholiad, camodd Ieuan Wyn Jones lawr fel Llywydd y blaid ond i gael ei ail-ethol fel yr arweinydd yn y Cynulliad o drwch blewyn.

Yn 2006, mabwysiadodd y blaid logo newydd, y pabi Cymreig yn lle'r Triban.

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 2007 golygu

Enillodd Plaid Cymru 15 sedd yn yr etholiad, a wedi'r buddogoliaethau ffurfiodd clymblaid gyda'r Blaid Lafur - y tro cyntaf i'r blaid lywodraethu Cymru yn ei hanes. Etholwyd Ieuan Wyn Jones fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Yn sgil addewid yng nghytundeb Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Enillwyd y refferendwm gyda mwyafrif sylweddol: pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a 36.51% 'nac ydw'.

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 2011 golygu

Collodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad 2011. Cynhaliwyd ymchwiliad i mewn i'r canlyniadau a arweiniodd at ail-strwythuro'r arweinyddiaeth.

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 2016 golygu

Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol o etholiadau 2011, yn ogystal â chynyddu canran y bleidlais etholaethol a ranbarthol. Ar ôl yr etholiadau daeth Plaid Cymru yn wrthblaid swyddogol y Cynulliad.

Cipiodd Leanne Wood (arweinydd ar y pryd) sedd Rhondda oddi wrth Leighten Andrews (Llafur). Daeth hyn a syndod mawr i nifer gan gynnwys aelodau blaenllaw Llafur.[18] Yn ogystal daeth Plaid Cymru yn agos iawn i ennill Llanelli, Blaenau Gwent ac Aberconwy.

Rhoddwyd Leanne Wood ymlaen i bleidlais Prif Weinidog Cymru yn y Senedd yn erbyn Carwyn Jones. Pleidleisiwyd UKIP, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru dros Leanne. Roedd y bleidlais yn gyfartal, 29 yr un, roedd rhaid gohirio'r sesiwn gan arwain at drafodaethau at sut i ddatrys y llwyrglo.[19] Dewiswyd y blaid i beidio parhau gyda'r enwebiad gan dynnu nôl enw Leanne ar y papur.

Rhwng 2016 a 2020 mae dau aelod wedi dod yn annibynnol o Blaid Cymru, Neil McEvoy a Dafydd Elis-Thomas. Cafodd Dafydd Elis-Thomas lle clymbleidiol yn y Llywodraeth fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ac roedd Neil McEvoy yn eistedd fel aelod annibynnol cyn troi'n Welsh National Party.

Etholiadau'r Senedd Cymru 2021 golygu

Bonclust fwyaf yr etholiad i Blaid Cymru oedd colli Leanne Wood, gyda Llafur yn cipio'i sedd, gyda mwyafrif o 5,497. Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, "Ym mhob un cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur… mewn seddi oedd yn y fantol… mi gafodd Plaid Cymru ei chwalu yn llwyr".[20] Mewn darn yn y Barn dywedodd yr Athro Wyn Jones bod angen gwella perfformiad Plaid Cymru mewn tri rhan; cael gwared â’r rhaniadau, diwygio’r peiriant ymgyrchu a chael gonestrwydd mewnol.[21] Enillodd y Blaid Lafur 30 o'r 60 sedd, gan wneud yr etholiad hon y gorau erioed iddi. Collodd Plaid Cymru un Comisiynydd Heddlu yn y gogledd, yn dilyn ymddeoliad Arfon Jones, pan gollodd y blaid i Lafur.

O ran ystadegau, cyfafodd y Blaid un aelod yn fwy (13) nag yn etholiad 2016 (12), ond gostyngodd canran y pleidleisiau 20.3% (-2%).

Y Comisiwn Annibyniaeth, 2020 golygu

Cyn etholiad cyffredinol 2019 cyhoeddodd Adam Price y byddai'n sefydlu comisiwn i edrych ar ymarferoldeb Annibyniaeth Cymru, a sut y byddai Llywodraeth Blaid Cymru yn cynnal refferendwm annibyniaeth.[22] Cyhoeddodd y comisiwn, dan arweiniad cyn Aelod Seneddol Plaid Dwyfor Meirionydd, Elfyn Llwyd, ei adroddiad ar 25 Medi 2020.[23] Mae'n argymell i Blaid Cymru 5 nod allweddol, gan gynnwys:[24]

  1. dylai Cymru annibynnol ymgeisio i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd
  2. archwilio perthynas gydffederal a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  3. newid dull gweithredu Llywodraeth Cymru a’r gwasanaeth sifil.
  4. llunio Cyfansoddiad i Gymru ac yn disgrifio fframwaith i’r Bil Hunan-Benderfynu er mwyn bwrw ymlaen a’r broses annibyniaeth.
  5. y dylai'r Comisiwn Cenedlaethol statudol gynnig dealltwriaeth glir i bobl Cymru ynghyrch yr opsiynau ar gyfer eu dyfodol cyfansoddiadol – gan ddefnyddio Rheithgorau Dinasyddion a reffrendwm cychwynnol i roi prawf ar ystod o opsiynau cyfansoddiadol.

Mae hefyd yn argymell y dylid cael un refferendwm amlddewis i fesur barn ac i berswadio llywodraeth San Steffan i gytuno i refferendwm ar yr opsiwn a ffefrir.[23] Cafodd yr adroddiad ei feirniadu gan y Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n gofyn am Prydain ffedral.[25]

Arweinyddiaeth Plaid Cymru golygu

Enw a llun Swydd Etholaeth Nodiadau
 

Rhun ap Iorwerth

Arweinydd y Blaid ac Arweinydd Grŵp y Senedd Ynys Môn Etholwyd heb gystadleuaeth yn Mehefin 2023[26]
 
Dafydd Wigley
Llywydd
Anrhydeddus
Ers 2001
Cyn-Lywydd y Blaid
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
 
Liz Saville Roberts
Arweinydd Grŵp
San Steffan
AS Dwyfor Meirionnydd
Owen Roberts Prif Weithredwr Penodwyd yn 2023[27]

Etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar Fawrth 15fed 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'. Enillodd Ms Wood 55% o'r bleidlais a chafodd Ms Jones 41%. Wrth i'r Arglwydd Elis-Thomas gael ei guro yn y bleidlais gyntaf cafodd ei bleidleisiau eu trosglwyddo i'r ddwy oedd ar ôl. Wedi'r ail bleidlais cafodd Ms Wood 3,326 o bleidleisiau a Ms Jones 2,494[28].

Ers ei hetholiad fel arweinydd, cadwodd Plaid Cymru ei safle fel yr ail blaid mewn llywodraeth leol, gyda 171 o gynghorwyr, ac ail-enillwyd Ynys Môn i'r blaid yn y Cynulliad wedi ymddeoliad Ieuan Wyn Jones. Enillodd ymgeisydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth gyda'r mwyafrif uchaf yn y sedd honno ers datganoli, gyda 12,601 o bleidleisiau (58% o'r bleidlais), 9,166 mwy na'r ymgeisydd Llafur Tal Michael a gafodd 3,345 o bleidleisiau (16%), ar Awst 1af 2013[29].

Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yna arweinydd newydd.[30]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[31]

Arweinwyr blaenorol golygu

Arweinydd Cychwyn Gorffen
1 Lewis Valentine 1925 1926
2 Saunders Lewis 1926 1939
3 John Edward Daniel 1939 1943
4 Abi Williams 1943 1945
5 Gwynfor Evans 1945 1981
6 Dafydd Wigley 1981 1984
7 Dafydd Elis-Thomas 1984 1991
8 Dafydd Wigley 1991 2000
9 Ieuan Wyn Jones 2000 2012
10 Leanne Wood 2012 2018
11 Adam Price 2018 2023
12 Llyr Gruffydd Mai 2023 Mehefin 2023
13 Rhun ap Iorwerth 2023 presennol

Senedd Ewrop golygu

Cyn Brexit roedd gan Blaid Cymru un cynrychiolydd yn Senedd Ewrop, sef Jill Evans. Mae Plaid Cymru yn aelod o Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA).

Etholiadau Cyffredinol y Deyrnas Gyfunol golygu

Blwyddyn Canran y bleidlais yng Nghymru Seddau a enillwyd
1929 < 0.1% (609) 0 (o 36)
1931 0.2% (2,050) 0 (o 36)
1935 0.3% (2,534) 0 (o 36)
1945 1.2% (16,017) 0 (o 36)
1950 1.2% (17,580) 0 (o 36)
1951 0.7% (10,920) 0 (o 36)
1955 3.1% (45,119) 0 (o 36)
1959 5.2% (77,571) 0 (o 36)
1964 4.8% (69,507) 0 (o 36)
1966 4.3% (61,071) 0 (o 36)
1970 11.5% (175,016) 0 (o 36)
1974 (Chwefror) 10.8% (171,374) 2 (o 36)
1974 (Hydref) 10.8% (166,321) 3 (o 36)
1979 8.1% (132,544) 2 (o 36)
1983 7.8% (125,309) 2 (o 38)
1987 7.3% (123,599) 3 (o 38)
1992* 9% (156,796) 4 (o 38)
1997 9.9% (161,030) 4 (o 40)
2001 14.3% (195,893) 4 (o 40)
2005 12.6% (174,838) 3 (o 40)
2010 11.3% (165,394) 3 (o 40)
2015 12.1% (181,694) 3 (o 40)
2017 4 (o 40)

Perfformiad mewn etholiadau golygu

Senedd Cymru golygu

Etholiad Etholaeth Rhanbarth Cyfanswm seddi +/– Llywodraeth
Pleidleisiau % Seddi Pleidleisiau % Seddi
1999 290,572 28.4
9 / 40
312,048 30.6
8 / 20
17 / 60
Gwrthblaid
2003 180,185 21.2
5 / 40
167,653 19.7
7 / 20
12 / 60
  5 Gwrthblaid
2007 219,121 22.4
7 / 40
204,757 21.0
8 / 20
15 / 60
  3 Llafur–Plaid
2011 182,907 19.3
5 / 40
169,799 17.9
6 / 20
11 / 60
  4 Gwrthblaid
2016 209,376 20.5
6 / 40
211,548 20.8
6 / 20
12 / 60
  1 Gwrthblaid
2021 225,376 20.3
5 / 40
230,161 20.7
8 / 20
13 / 60
  1 Gwrthblaid

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Burton, Matthew; Tunnicliffe, Richard (30 August 2022). "Membership of political parties in Great Britain" (PDF). UK Parliament House of Commons Library. Cyrchwyd 18 September 2022.
  2. Schrijver, Frans (2006). "Regionalism After Regionalisation: Spain, France and the United Kingdom". Amsterdam University Press: 330. Cite journal requires |journal= (help)
  3. Driver, Stephen (2011). "Understanding British Party Politics". Polity Press: 176. Cite journal requires |journal= (help)
  4. Wolfram Nordsieck. "Parties and Elections in Europe". parties-and-elections.eu.
  5. Hamilton, Paul (2008). "Nationalism and Environmentalism". Nations and Nationalism: A Global Historical Overview. ABC-CLIO. 3: 881.
  6. Elias, Anwen (2006). "From 'full national status' to 'independence' in Europe: The case of Plaid Cymru — the Party of Wales". European Integration and the Nationalities Question. Routledge: 194.
  7. "Lords by party and type of peerage". UK Parliament.
  8. Edkins, Keith Local Council Political Compositions Archifwyd 2019-01-07 yn y Peiriant Wayback. at Gwydir.demon.co.uk, 18 Chwefror 2012. Adalwyd 1 Mawrth 2012.
  9. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-14865114
  10. Richard Wyn Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), tt. 7–9.
  11. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), tt. 14–17.
  12. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), tt. 17–21.
  13. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), t. 9.
  14. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), t. 73.
  15. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), tt. 31–41.
  16. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), tt. 13–14.
  17. Jones, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru (2013), tt. 41–47.
  18. "'Gwawr newydd i'r Rhondda', meddai Leanne Wood". Golwg360. 2016-05-06. Cyrchwyd 2020-06-04.
  19. "Prif Weinidog Cymru: Carwyn a Leanne yn gyfartal". Golwg360. 2016-05-11. Cyrchwyd 2020-06-04.
  20. golwg.360.cymru; adalwyd 10 Mai 2021.
  21. "Rhoi trefn ar Blaid Cymru | Barn". barn.cymru. Cyrchwyd 2021-08-05.
  22. "Plaid Cymru yn 'paratoi'r ffordd at annibyniaeth'". BBC Cymru Fyw. 2020-09-25. Cyrchwyd 2020-09-30.
  23. 23.0 23.1 "'Dylai Plaid Cymru ddeddfu'n syth am refferendwm pe bai'n dod i rym'". Golwg360. 2020-09-25. Cyrchwyd 2020-09-30.
  24. "Gwefan Comisiwn Annibyniaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-09-30.
  25. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-20. Cyrchwyd 2020-09-30.
  26. "Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru". Golwg360. 2023-06-16. Cyrchwyd 2023-06-16.
  27. "Plaid Cymru yn penodi Owen Roberts yn brif weithredwr". BBC Cymru Fyw. 2023-03-15. Cyrchwyd 2023-05-15.
  28. http://www.bbc.co.uk/newyddion/17381134
  29. http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgElectionAreaResults.aspx?ID=50
  30. Rhun ap Iorwerth ac Adam Price i herio Leanne Wood , BBC Cymru Fyw, 4 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 28 Medi 2018.
  31. Ethol Adam Price fel arweinydd newydd Plaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 28 Medi 2018.

Dolenni allanol golygu