Roedd Glyn Stephens (29 Tachwedd 189122 Ebrill 1965) yn brop i rygbi undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Gastell-nedd. Enillodd 10 cap ar gyfer Cymru a bu'n gapten ar ei wlad. Roedd yn dad i Rees Stephens, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a ddaeth yn ddiweddarach yn lywydd Undeb Rygbi Cymru.

Glyn Stephens
Enw llawn Glyn Stephens
Dyddiad geni (1891-11-29)29 Tachwedd 1891
Man geni Castell-nedd[1]
Dyddiad marw 22 Ebrill 1965(1965-04-22) (73 oed)
Lle marw Castell-nedd
Ysgol U. Ysgol Eglwysig Cadoxton, Castell-Nedd
Perthnasau nodedig Rees Stephens (mab)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Prop
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
? Clwb Rygbi Castell-Nedd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1912-1919 Cymru 10 (0)

Gyrfa mewn Rygbi golygu

Enillodd Stephens ei gap gyntaf i Gymru yn erbyn Lloegr ar 20 Ionawr 1912 mewn gêm yn Twickenham.  Collodd Cymru'r gêm, ond roedd Stephens yn ôl am y tair gêm nesaf ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad. Chwaraeodd Stephens nid yn unig yng ngemau y cenhedloedd cartref ond hefyd yn wynebu De Affrica ar y daith yn 1912. Ar ôl y rhyfel, chwaraeodd ei gêm ryngwladol ddiwethaf pan oedd yn gapten ar dim Cymru yn erbyn Byddin Seland Newydd. Wedi iddo ymddeol o'r gêm, daeth yn rhan o reolaeth rygbi ac ym 1956 daeth yn lywydd Undeb Rygbi Cymru.

Ei Gemau Rhyngwladol golygu

Cymru[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau golygu

  1. WRU player profiles[dolen marw]
  2. Smith (1980), pg 471.