Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc

Adnabyddir Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc fel les Blues neu les Tricolores.

Mae'r mwyafrif o glybiau rygbi mwyaf Ffrainc yn y de, megis Toulouse a Perpignan neu ym Mharis. Mae rygbi'n boblogaidd dros ben yn Ffrainc, ac yn 2005 ym Mharis yr oedd y nifer o bobl a ddaeth i wylio gêm rhwng Stade Francais a Toulouse yn record y byd ar gyfer gêm rhwng dau dîm clwb.

 
Ffrainc yn erbyn Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2007

Cyrhaeddodd Rygbi'r Undeb i Ffrainc yn Le Havre trwy ddylanwad marsiandiwyr o Loger yn 1872. Yn ne Ffrainc y gwreiddiodd y gêm ddyfnaf. Dechreuodd cynghrair Ffrainc yn 1906, y gynghrair genedlaethol gyntaf yn y byd. Yr un flwyddyn chwaraeodd Ffrainc eu gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn y Crysau Duon ym Mharis, gan golli o 38 pwynt i 8. Ffurfiwyd y Fédération Française De Rugby yn 1919.

Yn 1910 ymunodd Ffrainc a Phencampwriaeth y Pum Gwlad. Fe'u gorfodwyd i adael yn 1932 yn dilyn cyhuddiadau o broffesiynoldeb yn y gynghrair Ffrengig a chwarae budr. Yn 1939 ail-ymunodd Ffrainc a'r bencampwriaeth.

Enillodd Ffrainc y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1959 ac ers hynny maent fel rheol wedi bod yn un o'r timau cryfaf. Yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au yr oedd gan Ffrainc dîm arbennig o dda, gyda chwaraewyr fel Jo Maso, Claude Dourthe, Jean-Pierre Lux, Guy Camberabero and Pierre Villepreux. Enillwyd y bencampwriaeth yn 1967 a 1968 a chafwyd gemau cofiadwy dros ben yn erbyn Cymru yn y cyfnod yma.

Yn y 1980au, enillodd Ffrainc y Gamp Lawn am y tro cyntaf, ac yn Nghwpan y Byd yn 1987 cawsant fuddugoliaeth dros Awstralia yn y rownd gyn-derfynol o 30 pwynt i 24, ond colli fu eu hanes yn y rownd derfynol yn erbyn y Crysau Duon o 29 pwynt i 9.

Efallai mai eu perfformiad mwyaf cofiadwy oedd yn erbyn y Crysau Duon yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 1999. Enillodd Ffrainc o 43 pwynt i 31 gyda'u cefnwyr yn chwarae rygbi ymosodol gwych. Unwaith eto colli fu eu hanes yn y rownd derfynol, y tro hwn i Awstralia yng Nghaerdydd o 35 pwynt i 12.

Ers i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau yn 2000, mae Ffrainc wedi cyflawni'r Gamp Lawn ddwywaith, yn (2002 a 2004).

Chwaraewyr enwog

golygu

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu