Goleddf Denniston

Roedd Goleddf Denniston yn rheilffordd serth rhwng glofeydd Denniston a'r brif lein yn Conns Creek yn Westland, Ynys y De, Seland Newydd, yn disgyn 510 medr dros bellter o 1.7 cilomedr.

Golygfa o'r copa
Hen wagenni ar y gwaelod

Pwysau'r wagenni llawn oedd 12 tunell, a defnyddiwyd pwys wagen i godi wagen wag.[1] Rhwng 1879 a 1967, aeth 13,000,000 o dunelli o lo o Denniston i Westport[2]

Caewyd y goleddf ar 16 Awst 1967, a defnyddiwyd loriau i gludo'r glo'n uniongyrchol o'r glofeydd. Difrodwyd y goleddf gan Ddaeargryn Inangahua ym Mai 1968.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tudalen hanes ar wefan Denniston". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-08. Cyrchwyd 2017-01-05.
  2. Gwefan nzhistory
  3. "Gwefan Denniston". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-14. Cyrchwyd 2017-01-05.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.