Ynys y De
Un o'r ddwy brif ynys sy'n ffurfio, gyda'u rhagynysoedd, gwlad Seland Newydd yw Ynys y De[1] (Maori: Te Wai Pounamu; Saesneg: South Island). Mae'n cynnwys dinasoedd Christchurch, a Dunedin. Mae Culfor Cook yn gorwedd rhyngddi a'r ynys fawr arall, Ynys y Gogledd. I'r gorllewin ceir Môr Tasman ac i'r dwyrain ceir y Cefnfor Tawel. Mae ganddi arwynebedd o 151,215 km sgwar a phoblogaeth o 1,008,400 o bobl (2001). Mae hi'n ynys fynyddig lle ceir Alpau'r De sy'n cynnwys Aoraki (Mynydd Cook) (3,754 m), y mynydd uchaf ar yr ynys ac yn Seland Newydd gyfan.
Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | de ![]() |
Poblogaeth | 1,115,800 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+12:00, UTC+13:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seland Newydd ![]() |
Sir | Seland Newydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 150,437 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Tasman ![]() |
Cyfesurynnau | 43.9833°S 170.45°E ![]() |
NZ-S ![]() | |
![]() | |

Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 111.