Goleudy'r Parlwr Du
Goleudy ar arfordir gogleddol Cymru yw Goleudy’r Parlwr Du, yn sefyll ym Mharlwr Du lle mae Afon Dyfrdwy yn cyrraedd Môr Iwerddon. Adeiladwyd y goleudy ym 1776, yr un hunaf yng Nghymru, ar ôl 2 longdrylliad ym 1775. Dinistrwyd y goleudy gwreiddiol ym 1818, ac adeiladwyd un newydd ym 1820, sy’n sefyll hyd at heddiw. Mae golleudy’n 60 troedfedd o daldra, gyda thryfesur o 18 troedfedd. Yn wreiddiol, roedd 2 olau, un wedi cyfeirio at y môr, y llall ar draws aber Dyfrdwy.[1]. Disodlwyd y goleudy gan goleulong ym 1883. Mae'r adeilad yn un rhestredig (Gradd II)[2]. Mae cerflun, Y Ceidwad, yn sefyll arno ers 2010.[3]
Math | goleudy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 53.4°N 3.3°W |
Cod OS | SJ 121 853 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Gosodwyd y goleudy ar werth am £100,000 yn 2011, yn aflwyddiannus.[1][4] Mae'r goleudy'n boblogaidd ymysg ffotograffwyr, yn arbennig gyda'r machlud.[2]