Y Parlwr Du

pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Cymru

Y Parlwr Du (Saesneg: Point of Ayr) yw pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Cymru. Mae'n bentir isel a leolir yn union i'r gogledd o Dalacre, yng ngogledd Sir y Fflint, wrth geg Glannau Dyfrdwy ar eu glan orllewinol. Mae'n gartref i warchodfa natur yng ngofal yr RSPB (Y Gymdeithas Frenhinol er Amddiffyn Adar). Yn y môr gyferbyn â'r Parlwr ceir banc tywod Banc West Hoyle. Mae'n rhan o gymuned Llanasa.

Y Parlwr Du
Mathpentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3542°N 3.3164°W Edit this on Wikidata
Map

Am flynyddoedd lawer bu pwll glo yn gweithio yn y Parlwr Du, a fu un o'r pyllau glo dwfn olaf i gau yng Nghymru (erys Glofa'r Tŵr, ger Hirwaun, de Cymru). Mae nwy naturiol o'r meysydd nwy Celtaidd ym Môr Iwerddon yn dod i'r lan ger y Parlwr Du i gael ei brosesu mewn gwaith gerllaw.

Twyni Gronant


Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato