Chwaraewr hoci iâ o Ganada oedd Gordon "Gordie" Howe, OC (31 Mawrth 1928 – 10 Mehefin 2016). O 1946 hyd 1980, chwaraeodd 26 o dymhorau yn y National Hockey League (NHL) a chwe thymor yn y World Hockey Association (WHA); treuliodd ei 25 o dymhorau cyntaf gyda'r Detroit Red Wings. Ei lysenw oedd "Mr. Hockey", a fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewyr hoci iâ gorau erioed.[1][2] Chwaraeodd fel un o sêr gornest gyfeillgar yr NHL 23 o weithiau. Bu'n dal nifer o recordiau hoci iâ nes i Wayne Gretzky eu torri yn y 1980au. O hyd mae'n dal recordiau'r NHL am y nifer fwyaf o gemau a thymhorau a chwaraeid.

Gordie Howe
Ganwyd31 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Floral Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 2016 Edit this on Wikidata
Sylvania, Ohio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr hoci iâ Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau93 cilogram Edit this on Wikidata
PriodColleen Howe Edit this on Wikidata
PlantMark Howe, Marty Howe Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddog Urdd Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Hart Memorial Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Art Ross Trophy, Canada's Sports Hall of Fame, Hockey Hall of Fame, Lester Patrick Trophy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mrandmrshockey.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auOmaha Knights, Detroit Red Wings, Hartford Whalers, Houston Aeros, Detroit Vipers Edit this on Wikidata
Saflewinger Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCanada Edit this on Wikidata

Cafodd Howe ei recriwtio gan y Red Wings a chychwynnodd chwarae yn yr NHL ym 1946. Ef oedd y prif sgoriwr pob blwyddyn o 1950 hyd 1954, ac eto o 1957 hyd 1963. Roedd ganddo safle yn y deg sgoriwr uchaf am 21 mlynedd yn olynol, ac ym 1953 gosododd record am y nifer uchaf o bwyntiau mewn tymor (95). Enillodd Cwpan Stanley gyda'r Red Wings pedair gwaith, enillodd Dlws Hart chwe gwaith (hynny yw, chwaraewr mwyaf werthfawr y gynghrair), ac enillodd Dlws Art Ross chwe gwaith (hynny yw, y prif sgoriwr).

Ymddeolodd Howe ym 1971 a chafodd ei ynydu i'r Hockey Hall of Fame y flwyddyn olynol. Dychwelodd i'r gêm ym 1973 gan ymuno â'i feibion Mark a Marty ar dîm y Houston Aeros yng nghynghrair y WHA. Er ei fod yn ddyn canol oed, sgoriodd dros 100 o bwyntiau ddwywaith mewn chwe mlynedd. Dychwelodd i'r NHL am dymor ym 1979–80, gan chwarae i'r Hartford Whalers, cyn iddo ymddeol yn 52 oed. Roedd ei gysylltiad â'r WHA yn ganolog i lwyddiant y gynghrair honno cyn iddi gyfuno â'r NHL, ac o ganlyniad gorfododd yr NHL i recriwtio chwaraewyr Ewropeaidd ac ehangu'r farchnad.

Roedd Howe yn enwog am ei fedr sgorio, ei gryfder, a hir oes ei yrfa ac ailddiffiniodd nodweddion delfrydol y blaenwr. Ef yw'r unig chwaraewr i gystadlu yn yr NHL mewn pum gwahanol ddegawd (o'r 1940au i'r 1980au). Cafodd y Gordie Howe hat trick ei enwi ar ei ôl: sgorio gôl, cynorthwyo sgorio gôl, ac ymladd yn yr un gêm (er i Howe wneud hyn dim ond dwywaith yn ystod ei yrfa). Ef oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Cyrhaeddiad Oes yr NHL yn 2008.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Rob Sinclair (10 Mehefin 2016). Gordie Howe dies at 88. CBC.
  2. (Saesneg) Players: Gordie Howe Biography. Hockey Hall of Fame. Adalwyd ar 14 Mehefin 2016.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: