National Hockey League

Mae'r National Hockey League (NHL; Ffrangeg: Ligue nationale de hockey—LNH) yn gynghrair hoci iâ proffesiynol yng Ngogledd America sydd ar hyn o bryd hyn cynnwys 31 o dimau: 24 yn yr Unol Daleithiau a 7 yng Nghanada. Mae'r NHL yn cael ei hystyried fel y prif gynghrair hoci iâ proffesiynol yn y byd,[1] ax yn un o'r prif gynghreiriau chwaraeon proffesiynol yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Cwpan Stanley, y tlws chwaraeon proffesiynol hynaf yng Ngogledd America,[2] yn cael ei wobrwyo yn flynyddol i bencampwyr y gynghrair ar ddiwedd pob tymor.

Y Los Angeles Kings' yn erbyn y Calgary Flames' Daymond Langkow, Rhagfyr 21, 2005.

Cafodd y National Hockey League ei threfnu ar Tachwedd 26, 1917, yn y Windsor Hotel yn Montreal yn dilyn atal holl weithredoedd ei rhagflaenydd, y National Hockey Association (NHA), a sefydlwyd yn 1909 yn Renfrew, Ontario.[3] Cymerodd yr NHL le'r NHA ar unwaith fel un o'r cynghreiriau oedd yn cystadlu am Gwpan Stanley mewn cystadleuaeth rhyng-gynghreiriol cyn i gyfuno a chau nifer o gynghreiriau adael yr NHL fel yr unig gynghrair oedd yn cystadlu am y Cwpan yn 1926.

Pan sefydlwyd yr NHL, roedd gan y gynghrair bedwar tîm—pob un yng Nghanada, a hynny roddodd y "National" yn yr enw. Estynnwyd y gynghrair i'r Unol Daleithiau yn 1924, pan ymunodd y Boston Bruins, ac mae wedi cynnwys timau o'r Unol Daleithiau a Chanada ers hynny. Chwe thîm yn unig oedd yn y gynghrair rhwng 1942 a 1967, a galwyd hwy gyda'i gilydd yn y 'Chwe Gwreiddiol' ("Original Six"). Ychwanegodd y NHL chwe thîm newydd i ddyblu ei maint yn 1967. Cynyddodd eto i 18 o dimau erbyn 1974 a 21 tîm yn 1979. Rhwng 1991 a 2000, estynnodd yr NHL eto i 30 o dimau. Ychwanegwyd y 31ain tîm yn 2017 ac bydd yn ymestyn i 32 yn 2021.

Mae pencadlys y gynghrair wedi bod yn Ninas Efrog Newydd ers 1989 pan symudwyd y brif swyddfa yno o Montreal.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Marsh, James (2006). "National Hockey League". The Canadian Encyclopedia. Cyrchwyd June 11, 2006.
  2. "NHL.com – Stanley Cup Fun Facts". National Hockey League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 17, 2010. Cyrchwyd July 15, 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. The National Hockey League Official Record Book & Guide 2009 77th Edition, p. 9. New York: National Hockey League (2008)
  4. Todd, Jack (September 17, 2012). "Americans and Bettman have stolen Canada's game". Calgary Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd January 31, 2018.