Gorsaf Metrolink Deansgate-Castlefield

Mae gorsaf Metrolink Deansgate-Castlefield yn orsaf Metrolink sydd wedi'i lleoli yn ardal Castlefield yng nghanol dinas Manceinion.

Gorsaf Metrolink Deansgate-Castlefield
MathManchester Metrolink tram stop Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol15 Mehefin 1992 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Manceinion Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.474731°N 2.250319°W Edit this on Wikidata
Map
Yr orsaf, gyda Chanolfan Confensiwn Manceinion Canolog yn y cefndir

Mae Tramffordd Metrolink yn arwain at y ddinas o’r de a gorllewin gan ddilyn trwydd hen reilffordd Pwyllgor Llinellau Swydd Gaer a âi i'r hen Orsaf reilffordd Manceinion Canolog. Ond ar ôl cyrraedd Deansgate/Castlefield, mae’r dramffordd yn disgyn at lefel y strydoedd ac yn mynd i ganol y ddinas. Erbyn hyn, mae Gorsaf reilffordd Manceinion Canolog yn ganolfan gynhadledd. Mae’r draphont o dan orsaf Deansgate/Castlefield yn cynnwys tafarndai, bwytai a chlwb comedi ar lan Camlas Rochdale[1]


Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Pride of Manchester". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-04. Cyrchwyd 2021-08-23.


  Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.