Metrolink Manceinion
Mae Metrolink (a elwir hefyd yn Metrolink Manceinion) yn system rheilffyrdd ysgafn ym Manceinion Fwyaf, Lloegr. Mae'n cynnwys pedair llinell sy'n uno yng nghanol dinas Manceinion ac yn terfynu yn Bury, Altrincham, Eccles a Chorlton-cum-Hardy. Mae'r system yn eiddo i Drafnidiaeth ar gyfer Manceinion Fwyaf (TfGM) a weithredir o dan gontract gan Grŵp RATP. Mae tramiau Metrolink yn rhedeg ar y stryd yng nghanol dinas Manceinion ac Eccles, ond mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau yn y maestrefi yn defnyddio llinellau rheilffyrdd trwm blaenorol ac, felly, yn cael eu gwahanu oddi wrth draffig y stryd.
Mae'r system tramiau ar hyn o bryd yn y broses o gael ei ddatblygu, gyda 4 llinell newydd a fydd yn cael eu hadeiladu erbyn 2016, ac estyniadau pellach posibl i Stockport a Chanolfan Trafford gydag ail linell ar draws y ddinas a gynlluniwyd ar gyfer canol Manceinion er mwyn hwyluso tagfeydd. Yn 2008 dechreuodd gwaith ar linellau Metrolink newydd, gan ddechrau ymestyn y system i Chorlton, East Didsbury, Ashton-under-Lyne, Oldham, Rochdale, Sportcity, MediaCityUK a Maes Awyr Manceinion. Dechreuodd y gwasanaeth i MediaCityUK yn 2010, tra cychwynodd y gwasanaethau i Chorlton yn 2011.
Llinellau
golyguDyma restr o linellau sydd mewn gwasanaeth ar y Metrolink: