Gorsaf fysiau Merthyr Tudful
Gorsaf fysiau sy'n gwasanaethu'r dref Merthyr Tudful yw Gorsaf fysiau Merthyr Tudful.
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf fysiau |
---|---|
Rhanbarth | Merthyr Tudful |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y lleoliad gwreiddiol yr orsaf i'r gogledd o'r canol y dre ar bwys Stryd y Castell. Adeiladwyd yn y 1960au, roedd hi rhan o'r ganolfan siopa drws nesa. Roedd yn cynnwys dwy gromlin fawr, wedi'u cynllunio i sianelu pobl tuag at y siopau.[1]
Datgelwyd cynlluniau yn 2014 i symud yr orsaf fysiau yn agosach i'r orsaf rheilffordd. Basai'r safle newydd ar Heol yr Alarch a basai'n bosib i gadw'r hen orsaf yn agor yn y cyfamser.[2] Dechreuodd y gwaith adeiladu o’r diwedd yn Gorffennaf 2019, gyda chymorth o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.[3]
Agorwyd yr orsaf fysiau newydd ar 13 Mehefin 2021. Roedd disgwyl y byddai'r drydedd orsaf fysiau brysuraf yng Nghymru, gyda wasanaethau gan Stagecoach, First Call Travel, NAT and Peter’s Minibus.[4] Roedd caffi a chiosg coffi ar gael i gwsmeriadau a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Powel, Meilyr (Tachwedd 2020). Merthyr Tydfil Bus Station. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Machin, Nick (23 Gorffennaf 2014). Merthyr Tydfil's bus station is on the move. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Lewis, Anthony (3 Gorffennaf 2019). Work starts on building Merthyr Tydfil's new bus station imminently. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2024.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Lewis, Anthony (4 Mehefin 2021). Merthyr's new £12m bus station given official opening date. Wales Online. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2024.