Gorsaf reilffordd Aviemore
Mae gorsaf reilffordd Aviemore (Gaeleg yr Alban: An Aghaidh Mhor) yn gwasanaethu tref Aviemore yn yr Ucheldiroedd, Yr Alban.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Aviemore |
Agoriad swyddogol | 1863 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol y Cairngorms |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.18828°N 3.82906°W |
Cod OS | NH895123 |
Rheilffordd | |
Côd yr orsaf | AVM |
Rheolir gan | Abellio ScotRail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Adeiladwyd Gorsaf reilffordd Aviemore yn rhan o Rheilffordd Inverness a Chyffordd Perth, ym 1863, a daeth y rheilffordd hon yn rhan o'r Rheilffordd yr Ucheldir ym 1865. Agorwyd lein fwy uniongyrchol rhwng Aviemore ac Inverness ym 1898 a daeth y lein wreiddiol ond gangen o Reilffordd yr Ucheldir. Caewyd y gangen yn y 1960au.[1]
Ailagorodd y gangen fel Rheilffordd Stêm Strathspey ym 1978, ac ers 1998, mae'r rheilffordd wedi defnyddio platfform 3.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 2016-06-27.
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland