Gorsaf reilffordd Birmingham (Heol Moor)
Mae Gorsaf reilffordd Birmingham (Heol Moor) yn orsaf ynghanol dinas Birmingham, gwasanaethwyd gan Rheilffordd Chiltern, sydd yn cysylltu Birmingham gyda Gorsaf reilffordd Marylebone Llundain.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1909 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Birmingham station group |
Sir | Dinas Birmingham |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.478288°N 1.891002°W |
Cod OS | SP074867 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 4 |
Côd yr orsaf | BMO |
Rheolir gan | Chiltern Railways |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Hanes
golyguAdeiladwyd Gorsaf Heol Moor i leihau pwys ar Gorsaf reilffordd Birmingham (Snow Hill), prif orsaf Rheilffordd y Great Western yn y ddinas. Dechreuodd gwaith adeiladu ym Medi 1908 ac agorwyd yr orsaf ar 1 Gorffennaf 1909m yn cynnwys 2 blatfform 700 troedfedd o hyd ac adeiladau dros dro. Adeiladwyd cangen Heol Moor, yn cysylltu’r orsaf i’r brif lein o Snow Hill, ac adeiladwyd traciau eraill rhwng Bordesley a Heol Moor, yn agor ar 16 Tachwedd 1913. Disodlwyd ei hadeiladau dros dro gyda adeiladau arhosol ym 1914 ar ôl cwblhau gwaith adeiladu depo nwyddau o dan yr orsafi deithwyr. Estynnwyd yr orsaf ym 1930 gan adeiladu platfform ychwanegol, 600 troedfedd o hyd, Adeiladwyd llwyfannau croesi, 60 troedfedd o hyd, i drosglwyddo locomotifau rhwng traciau. Roedd gwasanaethau lleol i Shirley, Henley-in-Arden a Stratford-upon-Avon rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn]]. Aeth y trenau i Snow Hill ar ddydd Sul. Yn ôl amserlen mis Gorffennaf 1922, aeth 21 o drenau o Heol Moor yn ddyddiol, a chyrhaeddodd 23. Aeth 4 trenau’n ddyddiol i Stratford, ar gweddill i Shirley a Henley-in-Arden. Daeth yr orsaf yn rhan o Ranbarth Orllewinol Rheilffordd Prydeinig. Arhosodd yr amserlen yr un fath, heblaw am y ffaith bod rhai o’r trenau’n mynd ond at Lynnau Earlswood. Dechreuodd defnydd o unedau diesel erbyn diwedd y 50au.[1]
Penderfynodd Rheilffordd Brydeinig cau’r orsaf ym 1969, ond aeth 5 awdurdod lleol i’r Uchel Lys i atal hyn. Erbyn y 70au, gweithredodd y West Midlands Passenger Transport Executive (WMPTE) o’r orsaf. Ym 1975, aeth 28 o drenau’n ddyddiol rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 17 ar ddydd Sadwrn.
Caewyd Heol Moor i drenau nwyddau ar 6ed Tachwedd 1972.
Erbyn yr 80au cynnar, daeth gorsaf Heol Newydd yn rhy brysur, a phenderfymwyd ailadeiladu ac ailagor gorsaf Snow Hill; fel rhan o’r proses, adeiladwyd gorsaf Heol Moor newydd, gyda rheilffordd yn mynd trwodd, yn hytrach na greu terminws, fel oedd yr un ddiwethaf. Agorwyd yr orsaf newydd ar 28ain Medi 1987. Adnewyddwyd adeiladu’r hen orsaf, yn costio £11 miliwn, i fod yn rhan o’r orsaf newydd, yn 2002.[1]
Roedd ailagor gorsaf reilffordd Snow Hill wedi bod yn llwyddiannus, ac erbyn y 1990au, roedd hi’n or-brysur. Ailsefydlwyd gwasanaeth i Lundain (i orsaf reilffordd Marylebone yn hytrach na Paddington) a daeth Snow Hill hyd yn oed yn brysurach. Enillwyr y gytundeb i redeg y gwasanaethau oedd Trenau M40. Newidiwyd enw’r cwmni i Reilffordd Chiltern. Prynwyd y cwmni gan Deutsche Bundesbahn yn 2006; Daeth Rheilffordd Chitern yn rhan o Drenau Arriva, hefyd yn eiddo i Deutsche Bundesbahn, yn 2011.
Ailagorwyd platfformau gwreiddiol Heol Moor ar 11 Rhagfyr 2010, wedi eu ail-gysylltiad i’r brif lein.
Gwnaethpwyd dros 6 miliwn o siwrneiau’n flynyddol o’r orsaf gan deithwyr erbyn 2011.
By 2011 there were over 6 million passenger journeys being made from Birmingham Moor Street. Gadawodd 98 trenau’n ddyddiol yr orsaf erbyn 2014.[1]