Gorsaf reilffordd Bow Street
Mae Bow Street yn orsaf rheilffordd ar Rheilffordd y Cambrian sy'n gwasanaethu pentref Bow Street. Adeiladwyd yr orsaf newydd i'r de o'r hen safle ac fe agorodd ar 14 Chwefror 2021.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1876 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bow Street |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.44°N 4.03°W |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | BOW |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguAgorodd yr orsaf wreiddiol ar 14 Mehefin 1864 yn rhan o linell Aberystwith and Welsh Coast Railway rhwng Borth ac Aberystwyth. Caewyd yr orsaf ar 14 Mehefin 1965 fel rhan o doriadau anferth Beeching i'r system reilffyrdd ar draws gwledydd Prydain.
Ail-agor
golyguYn dilyn pwysau lleol, yn 2015, comisiynodd Llywodraeth Cymru astudiaeth i ail-agor yr orsaf yn Bow Street[1] Mae Bow Street yn bendref gymudo 3 milltir i'r gogledd o Aberystwyth ac wedi tyfu'n aruthrol ers y 1960au gan gynnig tai rhatach na chanol tref Aberystwyth.
Bydd disgwyl i'r orsaf newydd leihau nifer y ceir sy'n teithio'n ddyddiol i ganol tref Aberystwyth ar gyfer gwaith yn y brifysgol, swyddfeydd y Llywodraeth a Chyngor Sir Ceredigion ynghŷd â busnesau eraill y dref. Gan fod yr osraf arfaethedig i fod ar hyd llwybr rheilffordd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio (llinell Aberystwyth i'r Amwythig) nid oes angen adeiladu cledrau newydd.
Gwnaethpwys cais gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am grant o £4 miliwn tuag at ail-agor yr orsaf ar safle ychydig i'r de o'r orsaf wreiddiol sydd, ar hyn o'r bryd yn safle masnachwr deunydd adeiladu.[2][3] Mae'r cynlluniau newydd yn cynnwys adnoddau ar gyfer maes parcio ar gyfer 110 o gerbydau, storfa beiciau a chyfnewidfa bysiau a choetsis.[4]
Cyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2017 bod yr orsaf wedi derbyn sêl bendith Adran Drafnidaeth San Steffan.[5] Bydd yr orsaf newydd yn costio oddeutu £6.8 miliwn a roedd disgwyl iddo agor Mawrth 2020.[6] Arafwyd y gwaith gan bandemig COVID-19 a felly agorwyd yr orsaf yn swyddogol ar 14 Chwefror 2021, gyda'r trên cyntaf yn cyrraedd ar fore Sul, 9.12am.[7]
Dolenni Allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Gorsaf drenau newydd i Geredigion?". BBC News. 10 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Funding hopes for Bow Street Aberystwyth railway station". BBC News. Cyrchwyd 8 December 2016.
- ↑ "New railway station near Aberystwyth 'would boost economy'". BBC News. 26 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2016.
- ↑ Spencer, Caleb. "Plans for new Bow Street railway station unveiled". Aberystwyth Today. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2016.
- ↑ "New station boost for passengers thanks to £16 million government investment". Department for Transport. UK Government. 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
- ↑ "£4m ar gyfer gorsaf drenau newydd yn Bow Street". BBC News. 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
- ↑ First train stops at newly opened Bow Street station (en) , Cambrian News, 14 Chwefror 2021.