Amwythig
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Amwythig (hefyd Yr Amwythig, ar lafar yn bennaf; hen ffurf: Mwythig; Saesneg: Shrewsbury).[1] Amwythig yw tref sirol a chanolfan weinyddol awdurdod unedol Swydd Amwythig, sy'n llai na'r sir seremonïol. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.
Math | tref sirol, tref farchnad, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig, Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 71,715, 76,802 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Zutphen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 37.99 km² |
Uwch y môr | 71 metr |
Gerllaw | Afon Hafren |
Yn ffinio gyda | Wem |
Cyfesurynnau | 52.7081°N 2.7544°W |
Cod SYG | E04011358, E04010538 |
Cod OS | SJ491124 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 71,715.[2]
Hanes
golyguAwgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mersia,[3] ond does dim sicrwydd am hynny.
Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan Lywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.
Mae'r dref yn enwog am ei hysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.
Adeiladau a chofadeiladau
golyguMae llawer o adeiladau hanesyddol yn y dref:
- Abaty Amwythig
- Castell Amwythig
- Eglwys Sant Julian
- Eglwys y Forwyn Fair
- Gwesty'r Llew
- Hen Neuadd y Farchnad
- Llyfrgell Amwythig
Cysylltiadau Cymreig
golyguY wasg Gymraeg yn Amwythig
golyguSymudodd Thomas Jones (1648-1713) yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua 70 o flynyddoedd ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).
Enwogion
golygu- Rhisiart, dug Efrog (1473-?1483)
- Syr Humphrey Mackworth (1657–1727), uchelwr
- Frederick Oakeley (1802-1880), canon ac awdur
- Charles Darwin (1809-1882), naturiaethwr
- Emyr Estyn Evans (1905-1989), archeolegydd
- Malcolm Pryce (g. 1960), nofelydd
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Ebrill 2021
- ↑ City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
- ↑ Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw), Y Geninen, rhif 2, cyf. XIII (Ebrill 1895), tt.81-85)
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) "Gwlad Darwin" - Gwasanaeth Amgueddfeydd Amwythig Archifwyd 2006-04-26 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Bwrdeistref Amwythig & Atcham Archifwyd 2008-09-05 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwybodaeth i ymwelwyr Archifwyd 2006-11-25 yn y Peiriant Wayback
Oriel
golygu-
Ireland's Mansion rhwng 1890 a 1905
-
Y castell
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem