Gorsaf reilffordd Bronwydd Arms

Mae Gorsaf reilffordd Bronwydd Arms yn orsaf ar Reilffordd Gwili, rheilffordd dreftadaeth yn Sir Gaerfyrddin ac yn bencadlys i’r rheilffordd.

Agorwyd yr orsaf yn wreiddiol ar 3 Medi 1860, yn rhan o’r Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi. Caewyd yr orsaf ar 22 Chwefror 1965 a dymchwelwyd adeiladau’r orsaf.[1]

Ailagorwyd yr orsaf ym 1978[2], a defnyddiwyd adeiladau o Reilffordd Calon Cymru i ailadeiladu’r orsaf. Defnyddiwyd hen focs signal Gorsaf reilffordd Llanymddyfri ac un arall o orsaf reilffordd Llandybie, ynglŷn â darnau o orsaf reilffordd Rhydaman.[3]


Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan disused-stations.og.uk
  2. "Gwefan walesrails.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2020-08-24.
  3. Gwefan disused-stations.og.uk


Dolen allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.