Gorsaf reilffordd Cyffordd Clapham
Mae gorsaf reilffordd Cyffordd Clapham (Saesneg: Clapham Junction) yn gwasanaethu ardal Battersea ym Mwrdeistref Wandsworth yn Llundain, Prif ddinas Lloegr.
Math | gorsaf reilffordd, transport hub |
---|---|
Agoriad swyddogol | 2 Mawrth 1863 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Battersea |
Sir | Wandsworth, Battersea |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4642°N 0.1714°W |
Cod post | SW11 2QP |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 17 |
Côd yr orsaf | CLJ |
Rheolir gan | Overground Llundain |
Perchnogaeth | Network Rail |
Hanes
golyguAgorwyd Rheilffordd Llundain a Southampton rhwng Nine Elms a Woking ar 21 Mai 1838, ond heb orsaf yn Clapham. Agorwyd ail lein, rhwng Nine Elms a Richmond, ar 27 Gorffennaf 1838. Estynnwyd y lein i Waterloo ym 1848. Adeiladwyd lein i Victoria ym 1860.[1] Agorwyd Cyffordd Clapham ym 1863[2] gan Reilffordd Llundain a de-orllewin (LSWR), Rheilffordd Llundain, Brighton a’r Arfordir Deheuol (LBSCR), Rheilffordd Estyniad Gorllewin Llundain (WLER) i fod yn gysylltiad rhwng y tair rheilffordd. Estynnwyd adeiladau’r orsaf ym 1874 a 1876.[1]
Gwasanaethau
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.