Gorsaf reilffordd Gilfach Ddu
Mae Gorsaf reilffordd Gilfach Ddu yn orsaf ar Reilffordd Llyn Padarn yn ymyl Llanberis, Gwynedd. Mae gan yr orsaf gaffi a siop. Mae’r Amgueddfa Llechi, Llyn Padarn a Chwarel Dinorwig gerllaw.[1]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1971 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanberis |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.122507°N 4.115131°W |
Hanes
golyguAgorwyd y rheilffordd yn rhannol ar 28 Mai 1971 rhwng Gilfach Ddu a Gorsaf reilffordd Cei Llydan. Estynnwyd y lein i’r gogledd i Penllyn ym 1972 ac estynnwyd y lein o Gilfach Ddu i Lanberis yn 2003..[1]
Rhag-orsaf | Reilffyrdd Cledrau Cul | Yr Orsaf Ddilynol | ||
---|---|---|---|---|
Cei Llydan | Rheilffordd Llyn Padarn | Llanberis |