Rheilffordd Llyn Padarn
Rheilffordd Llyn Padarn | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Mae Rheilffordd Llyn Padarn (Saesneg: Llanberis Lake Railway) yn rheilffordd fach gyfyng 1' 11½" (neu 597 mm) sy'n rhedeg am 2.5 milltir (neu 4 km) ar hyd lan ddwyreinol Llyn Padarn yn Eryri, Gwynedd.
Hanes
golyguMae'r rheilffordd yn dilyn rhan hen lwybr y rheilffordd 4' 0” ag arfer cludo llechu o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli.
Adfywiad
golyguYng Ngorffennaf 1966, awgrymodd Lowry Porter o Southend-on-Sea reilffordd o weithdy y cwmni chwarel yng Ngilfach Ddu yn ymyl Llanberis, i Ben llyn. Roedd trafodaeth yn mynd ymlaen efo cwmni y chwarel pan caewyd y chwarel yng Ngorffennaf 1969. Prynwyd y gweithdy yng Ngilfach Ddu gan Gyngor Sir Gwynedd, efo bwriad o greu parc gwledig.
Gwerthwyd tir a chyfarpar y chwarel, a phrynodd y rheilffordd dri locomotif stêm ac un diesel. Ym Mehefin 1970, prynodd y Cyngor Sir drywydd y lein, a rhoddwyd caniatâd i'r rheilffordd newydd i'w ddefnyddio.
Adeiladwyd y Rheilffordd yn lled 1 tr 11 1⁄2 modf (597 mm) yn hytrach na'r 1 tr 10 3⁄4 modf (578 mm) a defnyddiwyd yn y chwarel. Felly roedd rhaid addasu'r locomotifau a cherbydau i gyd. Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar 28 Mai 1971, ond na ddechreuodd gwasanaeth cyhoeddus tan 19 Gorffennaf, oherwydd problemau efo cerbydau. Estynnwyd y rheilffordd i Benllyn yn y gaeaf o 1971. Estynnwyd y lein i orsaf newydd yn Llanberis, agos i Reilffordd yr Wyddfa ym Mehefin 2003.
Locomotifau
golyguRhif | Enw | Adeiladwyd gan | Math | Rhif gwaith | Dyddiad | Nodau |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | Elidir | Hunslet | 0-4-0 ST | 493 | 1899 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Enid a hwyrach Red Damsel |
2 | Thomas Bach | Hunslet | 0-4-0 ST | 894 | 1904 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Wild Aster |
3 | Dolbadarn | Hunslet | 0-4-0 ST | 1430 | 1922 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig |
3 | Maid Marian | Hunslet | 0-4-0 ST | 822 | 1903 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig. Gweithiodd ar Reilffordd Llyn Padarn o 1972 i 1975. Aeth i Reilffordd Llyn Tegid |
7 | Topsy | Ruston Hornsby | 4wDM | 441427 | 1961 | Adeiladwyd ar gyfer Glofa Bestwood |
8 | Twll Coed | Ruston Hornsby | 4wDM | 268878 | 1952 | Gweithiodd ar Reilffordd Lodge Hill ac Upnor |
11 | Garrett | Ruston Hornsby | 4wDM | 198286 | 1939 | |
12 | Llanelli | Ruston Hornsby | 4wDM | 451901 | 1961 |
Cyfeiriadau
golyguThomas, Cliff (2002). The Narrow Gauge in Britain & Ireland. Cyhoeddwyr Atlantic. ISBN 1-902827-05-8.
Boyd, James I.C. (1986). Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, trydedd cyfrol: The Dinorwic Quarry and Railways, The Great Orme Tramway and Other Rail Systems. Gwasg Oakwood.
Carrington D.C. and Rushworth T.F. (1972). Slates to Velinheli: The Railways and Tramways of Dinorwic Slate Quarries, Llanberis and the Llanberis Lake Railway. Cronfa Locomotif Maid Marian.
Dolen allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-02-04 yn y Peiriant Wayback