Gorsaf reilffordd Glanllyn Flag Halt
Gorsaf reilffordd cledrau cul yw Glanllyn Flag Halt, sy'n orsaf ar gais (halt). Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol, ar Reilffordd Y Bala a Dolgellau, ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynne, yn o'r prif gyfrandalwyr y rheilffordd, ac yn bellach cyfarwyddwr y Rheilffordd y Great Western. Enwyd yr orsaf ar ôl ei dŷ ar lan arall y llyn, sydd erbyn hyn yn Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Rhwyfer Syr Watkin, neu ei westai, dros y llyn, a buasai signal wedi dangos i yrrwr y trên bod rhywun yn aros amdani.
Math | cyn orsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1931 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8694°N 3.6402°W |
Erbyn hyn, does yna ddim mynediad amlwg i'r orsaf, felly dydy'r orsaf ddim yn ymddangos ar amserlenni. Ond os bydd rhywun ar y platfform, bydd y trên yn stopio.
Ers 1991, mae Glanllyn wedi troi'n 'Arhosfa Siôn Corn' am ddau ddiwrnod bob mis Rhagfyr, ac mae trenau arbennig yn dod o Lanuwchllyn. Cwblhawyd adeilad newydd erbyn diwedd 2006 i roi mwy o gysur ym mis Rhagfyr.
Rhag-orsaf | Reilffyrdd Cledrau Cul | Yr Orsaf Ddilynol | ||
---|---|---|---|---|
Pentrepiod | Rheilffordd Llyn Tegid | Llangower |