Gorsaf reilffordd Grand Central, Efrog Newydd

Mae Gorsaf Reilffordd Grand Central (Saesneg: Grand Central Terminal) ar stryd Dwyrain 42fed, Efrog Newydd, ac erbyn heddiw, yw terminus y Rheilffordd Metro-North sydd gan 3 lein; y Lein Hudson, sydd ar lan ddwyreiniol yr Afon Hudson ac yn mynd i Poughkeepsie; y Lein Hudson, sydd yn mynd i Wassaic; ac y Lein New Haven, sy'n mynd i New Haven, efo canghenni i Waterbury, Danbury a New Canaan[1] Gwasaneithir yr orsaf gan leiniau 4, 5, 6, 7, ac S o'r reilffordd danddaearol, yr MTA[2].

Gorsaf reilffordd Grand Central
Delwedd:Image-Grand central Station Outside Night 2.jpg, NYC GC.jpg
Mathadeilad gorsaf, gorsaf pengaead, gorsaf reilffordd tanddaearol, atyniad twristaidd, union station Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol2 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1913 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManhattan Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.7528°N 73.9772°W Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformau67 Edit this on Wikidata
Rheolir ganMetropolitan Transportation Authority Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Beaux-Arts Edit this on Wikidata
PerchnogaethMetropolitan Transportation Authority Edit this on Wikidata
Statws treftadaethTirnod yn Ninas Efrog Newydd, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, National Historic Landmark, Historic Civil Engineering Landmark, Tirnod yn Ninas Efrog Newydd, New York State Register of Historic Places listed place Edit this on Wikidata
Manylion

Prynwyd tir gan Cornelius Vanderbilt ar gyfer yr orsaf ym 1869. Cynlluniwyd Depo Grand Central, yn costio 6.4 miliwn o ddoleri, gan John B Snook. Roedd yr orsaf yn derminws i 4 rheilffyrdd; Efrog Newydd Canolog ac Afon Hudson, Efrog Newydd a Harlem, ac Efrog Newydd, New Haven a Hartford, pob un ohonynt efo ei gyfleusterau ei hun. Ym 1871, prynwyd yr orsaf Efrog Newydd a Harlem gan P.T.Barnum, ac adeiladwyd Gardd Sgwâr Madison ar y safle. Ym 1900, adeiladwyd Gorsaf Grand Central ar y safle. Yn dilyn damwain ddifrifol mewn twnnel Park Avenue, penderfynwyd i drydaneiddio'r leiniau i'r orsaf ac adeiladu gorsaf newydd ar ddwy lefel. Agorwyd yr orsaf newydd ar 2 Chwefror, 1913.[3].

 
 

Cyfeiriadau

golygu
  1. Map ar wefan yr MTA
  2. "Tudalen gludiant ar wefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-06. Cyrchwyd 2014-11-25.
  3. Tudalen hanes ar wefan yr orsaf

Dolen allanol

golygu

Gwefan orsaf reilffordd Grand Central

  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.