Gorsaf reilffordd Haydons Road
Mae gorsaf reilffordd Haydons Road yng ngogledd-ddwyrain Bwrdeistref Merton, Llundain yn ne Llundain. Gwasanaeithir yr orsaf gan drenau Thameslink gan almaf ynghyd â gwasanaeth cyfyngedig gan gwmni trenau Southern yn ystod cyfnodau prysuraf y bore ac hwyr-brynhawn. Mae'r orsaf wedi ei leoli ar y Sutton Loop Line ac o fewn Parth Talu 3/ Travelcard Zone 3.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1923, 1868 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Summerstown |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4255°N 0.188°W |
Côd yr orsaf | HYR |
Perchnogaeth | Network Rail |
Fe'i agorwyd yn wreiddiol fel Rheilffordd "Haydens Lane", ger Rheilffordd Tooting, Merton & Wimbledon Railway (ac yntau yn eiddo ar y cyd gan y London and South Western Railway â'r London, Brighton and South Coast Railway) ar y 1af o Hydref 1868. Mae'r orsaf dicedi wedi ei leoli i fyny ar ochr yr orsafː fe ail-ddatblygwyd adeiladau'r orsaf wreiddiol yn ystod 1991 ac 1992 pan ail-ddatblygwyd dir cyfagos i'r platfform ar gyfer adeiladu tai. Tan ddyfodiad cwmni Thameslink fe wasanaethwyd yr orsaf gan drenau dolen London Bridge via Wimbledon.
Gwasanaethau
golyguGwasanaeth nodweddiadol allfrig o'r orsaf yw dwy drên yr awr i Luton via Llundain/London (clocwedd o gwmpas y ddolen) a dwy drên yr awr i Sutton via Wimbledon (gwrthglocwedd). Yn ychwanegol, rhêd cwmni, Southern rhwng 3 a 5 gwasanaeth y dydd rhwng Wimbledon a London Bridge.
Cysylltiadau
golyguBwsiau Llundain/London Buses llwybrau 156, 200 ac mae gwasanaeth rhif 493 hefyd yn gwasanaethu'r orsaf.