Gorsaf reilffordd Llynpenmaen
Gorsaf reilffordd Llynpenmaen (a alwyd yn Penmaenpool gan y cwmnïau rheilffordd) oedd yr orsaf gyntaf ar ôl gadael Gorsaf reilffordd Dolgellau am Gyffordd y Bermo. Fe'i wasanaethodd pentrefan bychan Llynpenmaen. Fe'i gaewyd yr un adeg â gweddill y lein fis Rhagfyr 1964. Roedd yno iard nwyddau fechan, lŵp lle gallai dau drên basio ei gilydd, a bocs signalau (sy'n dal i sefyll ac yn gwasanaethu fel arsyllfa adar). Nodwedd bron yn unigryw ynglŷn â'r orsaf, a safai wrth ben y bont bren dros yr afon (a godwyd gan y cwmni rheilffordd yn y lle cyntaf), oedd y ffaith fod y platfformau un ochr i'r groesfan ffordd a arweiniai at y bont, ac adeiladau megis y swyddfa docynnau, yr ochr arall, wrth ochr tafarn Sior III.
Math | cyn orsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Llynpenmaen |
Agoriad swyddogol | 1865 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7486°N 3.9344°W |
Nifer y platfformau | 2 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ychydig i'r gorllewin, yr oedd sied injans lle cedwid dwy injan ar gyfer tynnu trenau rhwng y Bermo a Rhiwabon.