Llynpenmaen
pentref yng Ngwynedd
Mae Llynpenmaen (Saesneg: Penmaenpool) yn bentrefan bychan ar ochr ddeheuol aber yr Afon Mawddach yng nghymuned Dolgellau, Gwynedd. Roedd gorsaf reilffordd yma, ac erys olion yma o hyd - y bocs signalau a signal ymysg pethau eraill.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dolgellau |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7472°N 3.9361°W |
Cod OS | SH693184 |
Cod post | LL40 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Digwyddai damwain erchyll yma tua diwedd y 1960au pan darawodd cwch pleser yn orlawn o ymwelwyr yn erbyn y bont ar ôl teithio yno o Abermaw ac fe gollwyd y rhan fwyaf eu bywydau. Oherwydd hyn, ataliwyd yr holl dripiau cwch i fyny'r afon oedd wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ers can mlynedd.
Mannau o ddiddordeb
golygu- Tollbont Llynpenmaen - tollbont bren a adeiladwyd ym 1879 i gymryd lle'r groesfan fferi oedd yno. Mae wedi'i gofrestru gyda Cadw ac yn rhestredig Gradd II.
- Roedd gwesty George III yn ddau adeilad yn wreiddiol: siandler llongau, yn gwasanaethu'r diwydiant cychod, a thafarn. Mae'n dyddio o tua 1650 ac mae'n rhestredig Gradd II.
Yn ôl pob sôn, ysgrifennodd Gerard Manley Hopkins y gerdd o'r enw Penmaen Pool yn y llyfr ymwelwyr.