Gorsaf reilffordd Mayhill Trefynwy
Mae gorsaf reilffordd Mayhill Trefynwy (Saesneg: Monmouth Mayhill railway station) yn orsaf reilffordd segur ar Reilffordd Ross a Threfynwy, cafodd ei agor yn 1873 ac wedyn ei chau yn 1959. Roedd yr orsaf yn un o ddwy orsaf a oedd yn gwasanaethu tref Trefynwy yng Nghymru ac wedi ei leoli ar y lan arall Afon Gwy o Drefynwy. Hwn oedd y derfynfa gychwynnol y llinell, ond cafodd y llinell ei hymestyn ar draws Afon Gwy i'r orsaf gyffordd Troy Trefynwy yn 1874.
Math | cyn orsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1873 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Trefynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8118°N 2.7075°W |
Nifer y platfformau | 1 |
Fe'i hagorwyd yn wreiddiol fel gorsaf dros dro ac yn fuan daeth i fod yn orsaf barhaol. Mae'r adeilad yr orsaf wedi ei ddymchwel, ond mae'r llwyfannau yn dal i fodoli.