Afon Gwy
Afon sy'n llifo o lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren (ger Cas-gwent) yw Afon Gwy (Saesneg: River Wye). Llifa trwy Gymru a Lloegr, ac mewn rhannau mae'n ffurfio'r ffin rhwng y ddwy wlad. Gyda hyd o 215 km (135 milltir), hi yw'r ail hwyaf o'r afonydd sy'n llifo trwy Gymru, ar ôl afon Hafren, a'r bumed hwyaf ar ynys Prydain. Dalgylch yr afon yw 4136 km². Mae nifer o drefi ac atyniadau i ymwelwyr ar lan yr afon: Rhaeadr Gwy, Llanfair ym Muallt, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Rhosan ar Wy, Symonds Yat, Trefynwy a Thyndyrn a Chas-gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SGDA) ac mae'n bwysig o safbwynt cadwriaethol. Ger Afon Hafren, mae'r dyffryn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.4692°N 3.765°W |
Aber | Aber Hafren |
Llednentydd | Afon Llugwy (Powys), Afon Mynwy, Afon Troddi, Afon Ieithon |
Dalgylch | 4,136 cilometr sgwâr |
Hyd | 215 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Tarddiad yr enw
golyguDywed Owen a Morgan y gallai'r enw fod yn gyn-Geltaidd, ond fod y Frythoneg *guo- yn ôl pob tebyg yn darddiad iddo, a'i fod yn gytras a'r gair Cymraeg "gŵyr", yn cyfeirio at droeadau'r afon.[1]
Cwrs yr afon
golyguCeir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Pumlumon, cyf. OS SN802871, yn sir Powys ond yn agos iawn at y ffin â Cheredigion. Nid yw tarddle Afon Hafren ymhell, ar lethrau gogleddol Pumlumon. Mae afon Gwy yn llifo tua'r de-ddwyrain, gydag afon Tarennig yn ymuno â hi ger Pont Rhydgaled, i gyrraedd Llangurig, lle mae'n troi tua'r de. Mae afon Marteg yn ymuno â hi cyn iddi gyrraedd tref Rhaeadr Gwy, ac ychydig islaw'r dref mae afon Elan yn ymuno â hi. Llifa ymlaen tua'r de a'r de-ddwyrain heibio Llanwrthwl a Bontnewydd ar Wy cyn i afon Ieithon ymuno â hi. Gerllaw Llanfair-ym-Muallt, mae afon Irfon yn ymuno. Ymhellach tua'r de, llifa heibio Aberedw, lle mae afon Edw yn ymuno, yna heibio Erwyd, Bochrwyd a Llys-wen. Oddi yma, mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i lifo heibio'r Clas-ar-Wy a'r Gelli Gandryll.
O'r Gelli Gandryll ymlaen, ffurfia'r afon y ffin rhwng Cymru a Lloegr wrth iddi lifo ymlaen tua'r gogledd, cyn iddi droi tua'r dwyrain eto i mewn i Loegr a Swydd Henffordd. Llifa heibio Bredwardine ac yna trwy ddinas Henffordd. Ychydig islaw Henffordd, mae afon Llugwy yn ymuno â hi. Oddi yno mae'n dolennu tros y gwastadeddau i gyfeiriad y de, i gyrraedd Rhosan ar Wy, ac wedi llifo heibio Symonds Yat mae'n croesi'r ffin yn ôl i Gymru yn Sir Fynwy, lle mae afon Mynwy yn ymuno â hi gerllaw Trefynwy, ac afon Troddi yn ymuno yn fuan wedyn. Ychydig ymhellach i'r de, ger Redbrook, mae afon Gwy unwaith eto yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr am y 16 milltir diwethaf o'i chwrs. Llifa heibio i dref Cas-gwent a than Bont Gwy, sy'n rhan o Bont Hafren, i ymuno ag aber afon Hafren.
Hanes
golyguAdeiladodd y Rhufeiniaid bont o goed a meini ychydig uwchlaw lle mae Cas-gwent heddiw. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Yn nechrau'r 1660au, bu Syr William Sandys yn gweithio i alluogi morio hyd bwynt ychydig islaw Henffordd, a rhoddodd mesur seneddol yn 1696 yr hawl i Swydd Henffordd ddychwel melinau ac argaeau ar hyd y rhan yma o'r afon. Wedi hyn, gellid cyrraedd cyn belled a'r Gelli Gandryll o leiaf.
Yn 1808, ychwanegwyd llwybr i alluogi'r defnydd o geffylau i dynnu cychod cyn belled a Henffordd, a pharhaodd y defnydd o'r afon i gario nwyddau yn bwysig hyd y 1850au, pan ddatblgodd y rheilffyrdd.
Bywyd gwyllt
golyguDynodwyd Afon Gwy, o'i tharddle hyd ei haber, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[2] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.
Hamdden
golyguDynodwyd rhan isaf Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1971. Mae'r ardal yma yn cynnwys 326 km sgwar, o Mordiford ger Henffordd i gyrion Cas-gwent, a 72 km (45 milltir) o gwrs yr afon ei hun. Ceir nifer o atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal yma, megis Abaty Tyndyrn a Symonds Yat. Mae'n ardal boblogaidd ar gyfer cerdded, ac mae Llwybr Dyffryn Gwy yn dilyn rhan helaeth o gwrs yr afon am 136 milltir o Gas-gwent i'w tharddle ar lethrau Pumlumon, tra mae Llwybr Clawdd Offa yn cychwyn yn Sedbury ar lan ddwyreiniol yr afon, gyferbyn a Chas-gwent, ac yn dilyn yr afon am gryn bellter hefyd.
Mae Afon Gwy yn lle poblogaidd i ganŵio, gyda rhan sylweddol ohoni yn agored i'r gweithgarwch yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 498
- ↑ "Safle SAC Afon Gwy (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-07. Cyrchwyd 2010-03-05.