Gorsaf reilffordd Nutfield
Mae gorsaf reilffordd Nutfield yn gwasanaethu pentref Nutfield, Surrey, De-ddwyrain Lloegr. Saif ar yr llinell Redhill i Tonbridge, tua milltir i'r de o Nutfield, pentref nad oedd yn bodoli cyn adeiladu'r rheilffordd.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Nutfield, Surrey |
Agoriad swyddogol | 1884 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nutfield, Surrey |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.227°N 0.133°W |
Cod OS | TQ304491 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | NUF |
Rheolir gan | Southern |
Mae 24 milltir 47 cadwyn (24.59 milltir, 39.57 cilomedr) i Llundain Charing Cross trwy Redhill.
Ers 2008 mae’r orsaf, a’r holl drenau sy’n stopio yno, wedi cael eu gweithredu gan Southern, ar ôl i’r gwasanaeth Southeastern blaenorol gael ei dynnu’n ôl.
Hanes
golyguAgorwyd y rheilffordd rhwng Redhill a Tonbridge gan y South Eastern Railway ar 26 Mai 1842. Agorodd gorsaf Nutfield ar y llinell honno ar 1 Ionawr 1884.
Gwasanaethau trenau
golyguMae'r holl wasanaethau yn Nutfield yn cael eu gweithredu gan Southern gan ddefnyddio EMU Dosbarth 377.
Mae'r gwasanaeth penwythnos yn un trên yr awr bob ffordd.
Ym mis Rhagfyr 2023 gostyngwyd nifer y trenau a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwasanaeth dydd Llun i ddydd Gwener o 3 thrên i 2. O ganlyniad gostyngwyd y gwasanaeth trên o bob awr allfrig a bob hanner awr ar adegau brig, i wasanaeth afreolaidd heb amseroedd gadael cyson yr awr.