Gorsaf reilffordd Sgwâr Forster Bradford
Mae gorsaf reilffordd Sgwâr Forster Bradford (Saesneg: Bradford Forster Square) yn un o dau orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dinas Bradford yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1846 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bradford |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.797°N 1.753°W |
Cod OS | SE163334 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 3 |
Côd yr orsaf | BDQ |
Rheolir gan | Arriva Rail North, Northern Trains |
Perchnogaeth | Northern Rail |
Hanes
golyguAgorwyd yr orsaf ar 1 Gorffennaf 1846 gan Reilffordd Leeds a Bradford. Erbyn 1853, roedd Rheilffordd y Midland wedi caffael y Reilffordd Leeds a Bradford, ac ailadeiladu'r orsaf. Roedd yr adeilad newydd yn fwy, ond yn llai diddorol yn bensaernïol. Ym 1890, amnewidiwyd yr orsaf reilffordd eto. Erbyn 1906, roedd Sgwâr Forster wedi'i adeiladu ychydig i'r de-ddwyrain o'r orsaf reilffordd, ond ni ddefnyddiwyd yr enw Gorsaf Sgwâr Forster tan 1924. Trychedig yr orsaf ym 1990, pan godwyd gorsaf newydd ar ochr orllewinol yr hen orsaf. Ym 1994, cafodd y llinell i mewn i'r orsaf ei thrydaneiddio.
Gwasanaethau
golyguMae trenau o'r orsaf yn cael eu gweithredu gan Northern Trains a London North Eastern Railway. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau uniongyrchol i Shipley tua'r gogledd, Leeds a King's Cross Llundain tua'r dwyrain a Halifax a Victoria Manceinion tua'r gorllewin.