Gorsaf reilffordd Victoria Manceinion
Mae Gorsaf reilffordd Victoria Manceinion (Saesneg: Manchester Victoria station) yn orsaf reilffordd ar y brif rhwydwaith ac yn arhosfan tramiau Metrolink.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1844 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | National Rail |
Sir | Dinas Manceinion |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.487421°N 2.244528°W |
Cod OS | SJ839989 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 6 |
Côd yr orsaf | MCV |
Rheolir gan | Arriva Rail North, Northern Trains |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Edwardaidd |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Cyrhaeddodd Rheilffordd Leeds a Manceinion y ddinas ym 1839, efo terminws ym Miles Platting. Estynnwyd y lein i Hunts Bank erbyn 1844 a chynlluniwyd y terminws gweiddiol ar y safle gan George Stephenson. Adeiladwyd platfformau newydd yn yr 1850au, yn creu Gorsaf reilffordd Pont Ducie, y daeth yn rhan o orsaf Victoria yn ystod yr 1860au. Adeiladwyd to newydd ym 1864, a 2 blatfform newydd a swyddfa tocynnau ym 1865 ac estynnwyd yr orsaf eto ym 1884 ar ôl prynu tir ychwanegol.[1] Estynnwyd yr orsaf yn sylweddol gan William Dawes ym 1909, ac mae rhannau helaeth yr adeiladwaith wedi goroesi hyd at heddiw.[2] Roedd gan yr orsaf 17 platfform, 7 ohonynt yn ffurfio terminws, a 10 ar leiniau'n mynd syth trwy'r orsaf.[3]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1844 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | National Rail |
Sir | Dinas Manceinion |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.487421°N 2.244528°W |
Cod OS | SJ839989 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 6 |
Côd yr orsaf | MCV |
Rheolir gan | Arriva Rail North, Northern Trains |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Edwardaidd |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Er mwyn gwrthsefyll tyfiant o dramffyrdd ar strydoedd Manceinion yn y 1900au cynnar, trydanwyd y rheilffordd rhwng Manceinion a Bury gan Reilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog ym 1916, yn defnyddio trydan 1200 folt DC ar drydydd cledr.[4]
Ar un adeg, roedd cysylltiad efo Gorsaf reilffordd Exchange Manceinion, ac roedd platfform 11 yr un hiraf yn y byd, 670 medr o hyd. Caewyd gorsaf Exchange ar 5 Mai, 1969 a throsglwyddwyd ei gwasanaethau i gyd i Victoria..[1][4] Daeth yr adeilad yn un rhestredig (gradd 2) ym 1988. Addaswyd yr orsaf yn 1992 i gynnwys Metrolink Manceinion.[1]
Gorffennwyd gwaith ail-adeiladu’r orsaf ym mis Hydref 2015, yn costio £48.5 miliwn o bynnau[5]. Cedwyd strwythyr Edwardaidd allanol yr orsaf, 146 medr o hyd, yr hen swyddfa tocynnau, giât y milwyr (cofeb i feirwon y Rhyfel Byd Cyntaf) a map enfawr o rwydwaith Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.[6]
Mae Arena Manceinion uwchben yr orsaf. Agorwyd yr Arena yng Ngorffennaf 1995. Caewyd yr orsaf am wythnos ar ôl ymosodiad terfysgol yn yr arena uwchben yr orsaf ar 22 Mai 2017. Bu farw 22 o bobl yn ystod cyngerdd gan Ariana Grande.[7]
Gorsaf Metrolink
golyguVictoria | ||
---|---|---|
Metrolink Manceinion | ||
Lleoliad | ||
Lle | Manceinion | |
Awdurdod lleol | Manceinion | |
Platfform/au | 2 | |
Gwybodaeth Parth Pris | ||
Parth Metrolink | D (Dinas) | |
Hanes |
Ystyriwyd adeiladu rheilffordd danddaearol rhwng gorsafoedd Piccadilly a Victoria yn y 70au[8]. Cafodd y lein eu canslo oherwydd cost uchel, a phenderfynwyd adeiladu tramffordd Metrolink. Agorwyd y lein cyntaf, rhwng Altrincham a Bury, efo cysylltiad i Piccadilly, ar 6 Ebrill 1992. Aeth y dramffordd dros safleoedd platfformau 5-8, a defnyddiodd yr hen lein Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog i Bury.
Caewyd y rheilffordd rhwng Victoria, Oldham a Rochdale ym mis Hydref 2009, yn ailagor yn raddol fel tramffordd Metrolink, ym mis Mehefin 2012 ac i Rochdale ym mis Mawrth 2014.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwefan Manchester Evening News
- ↑ Gwefan hanes Manceinion
- ↑ Gwefan ralmagazine.com
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Gwefan Light Rail Transit Association". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-15. Cyrchwyd 2017-10-08.
- ↑ Gwefan railway-technology.com
- ↑ "Gwefan sefydliad peirianyddon sifil". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-08. Cyrchwyd 2017-10-23.
- ↑ Gwefan chroniclelive
- ↑ Taflen SELNEC, Hydref 1971
Dolen allanol
golygu