Gorsaf reilffordd Union, Toronto
Gorsaf reilffordd Union yw prif orsaf reilffordd Toronto, Ontario, Canada. Gwasanaethir yr orsaf gan Gomisiwn Transit Toronto, Go Transit, UP Express a Via Rail.[1] Mae tua chwarter miliwn o bobl yn defnyddio’r orsaf yn ddyddiol.[2]
Hanes
golyguRoedd gorsaf Union gynharach, adeiladwyd ym 1872, ar Heol Front, rhwng heolydd York a Simcoe. Cwblhawyd ei mynedfa ym 1895, yn cynnwys swyddfeydd tocynnau, ystafelloedd aros a swyddfeydd y Rheilffordd Grand Trunk. E.P.Hannaford, prif beiriannydd y reilffordd, oedd y pensaer. Roedd yr orsaf yn seiliedig ar orsaf reilffordd yr Illinois Central yn Chicago..[3]
Dinistrwyd 14 acer ynghanol y ddinas gan dân ar 19 Ebrill 1904, yn rhoi cyfle i adeiladu gorsaf ar gyfer y cwmnïau i gyd. Llogwyd y safle presennol i’r Rheilffordd Grand Trunk ym 1905, a dechreuodd gwaith adeiladu ym 1914. Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, a dadleuon rhwng y rheilffyrdd, dinas ac awdurdod yr harbwr, ac wedyn methiant y rheilffordd Grand Trunk, agorwyd yr orsaf gan Edward, tywysog Cymru, ar 6 Awst 1927 a daeth y trenau cyntaf ar 11 awst.[3] Dynodwyd yr orsaf yn Safle Hanesyddol Genedlaethol ym 1975.[4] Prynwyd yr orsaf gan ddinas Toronto yn 2000.[2]
Adeiladwaith ‘Beaux-Arts’ yr orsaf
golyguCydweithiodd G.A.Ross, R.H.Macdonald, Hugh Jones a John M.Lyle ar cynllun yr orsaf. Gwnaethpwyd nenfwd y neuadd fawr gyda theils Gustafino, ac yn cynnwys enwau’r dinasoedd ar reilffyrdd Canadian Pacific a Canadian National.
Adeiladwyd y waliau mewnol gyda maen Zumbro o Mississippi, y llawr o farmor Tennessee, a’r waliau allanol gyda chalchfaen Indiana a Queenston.[2]
GO Transit
golyguCyhoeddwyd bwriad i ddechrau gwasanaethau lleol ar gyfer teithwyr gan Lywodraeth Ontario ar 19 Mai 1965, a cyrhaeddodd trên gyntaf GO Transit o Oakville ar 23 Mai 1967.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan torontounion.ca
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan toronto.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-26. Cyrchwyd 2017-11-03.
- ↑ 3.0 3.1 "Gwefan toronto.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2017-11-07.
- ↑ Tudalen hanes ar wefan torontounion.ca