Tennessee
Mae Tennessee yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Tennessee. Yn Nwyrain Tennessee ceir ardal o fryniau coediog; mae Canolbarth Tennessee (Middle Tennessee), drofa ar Afon Tennessee, yn ardal o lwyfandir ucheldirol a bryniau, ac mae Gorllewin Tennessee yn ardal o gorsydd a thir isel sy'n gorwedd rhwng Afon Tennessee ac Afon Mississippi. Brwydrai Prydain Fawr a Ffrainc am feddiant o'r ardal yn yr 17g a daeth dan reolaeth Prydain. Cafodd ei datgan yn diriogaeth yn 1790 a daeth yn dalaith yn 1796. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America. Bu'n dyst i anghydfod sifil yn y 1960au; saethwyd Martin Luther King ym Memphis yn 1968. Nashville yw'r brifddinas.
Arwyddair | Agriculture and Commerce |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Tanasi |
Prifddinas | Nashville |
Poblogaeth | 6,910,840 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bill Lee |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser Canolog |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 109,247 km² |
Uwch y môr | 280 metr |
Yn ffinio gyda | Arkansas, Missouri, Kentucky, Virginia, Gogledd Carolina, Georgia, Alabama, Mississippi |
Cyfesurynnau | 36°N 86°W |
US-TN | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Tennessee |
Corff deddfwriaethol | Tennessee General Assembly |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Tennessee |
Pennaeth y Llywodraeth | Bill Lee |
Mewnfudo o Gymru
golyguYn dilyn y Rhyfel Cartref symudodd 104 teulu Cymraeg o Pennsylvania i Ddwyrain Tennessee - i ran o'r enw Mechanicsville, a rhan o ddinas Knoxville. Fe'u cyflogwyd gan y brodyr Joseph a David Richards (a John H. Jones)i weithio mewn ffatri metal. Roedd y brodyr wedi sefydlu Gwaith Haearn Knoxville gerllaw rheilffordd yr "L&N Railroad", ar safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel safle ar gyfer "1982 World's Fair". Mae'r hen ffwndri, a ddefnyddir heddiw fel tŷ bwyta, yn dal i sefyll; yr unig ddarn.
Codwyd capel Cymraeg ganddynt, gyda'r Parchedig Thomas Thomas yn weinidog arnynt yn 1870. Gwerthwyd y capel yn 1899.
Daeth y gwladychwyr Cymreig hyn yn llwyddiannus iawn yn yr ardal gan sefydlu sawl busnes arall yn y ddinas, gan gynnwys y cwmni oedd yn gyfrifol am greu cerbydau rheilffordd, cwmni llechi (a thoi), cwmni marmor a sawl cwmni gwneud dodrefn. Erbyn 1930 roedd plant y teuluoedd wedi lledaenu drwy'r ddinas a siroedd eraill megis Swydd Sevier. Heddiw, mae dros 250 teulu'n olrhain eu hachau i'r mewnfudwyr cyntaf hynny ac maent yn parhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Dinasoedd Tennessee
golygu1 | Memphis | 662,897 |
2 | Nashville | 626,681 |
3 | Knoxville | 178,874 |
4 | Chattanooga | 167,674 |
5 | Clarksville | 132,929 |
6 | Soddy-Daisy | 11,530 |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) www.tennessee.gov