Gorsaf reilffordd Union, Washington DC
Mae Gorsaf reilffordd Union, Washington DC yn orsaf reilffordd yn Washington DC. Defnyddiwyd yr orsaf gan drenau Amtrak, MARC (Maryland Area Rail Commuter), VRE (Virginia Rail Express) a threnau Metro Washington.
Math | central station |
---|---|
Enwyd ar ôl | Washington |
Agoriad swyddogol | 1908 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Northwest |
Sir | Washington |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 38.8973°N 77.0063°W |
Cod post | 20001 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 22 |
Rheolir gan | Jones Lang LaSalle |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth glasurol, pensaernïaeth Beaux-Arts, City Beautiful movement |
Perchnogaeth | Washington Terminal Company, United States Department of Transportation |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, National Treasure |
Manylion | |
Mae dros 210,000 troedfedd sgwâr o siopau a 50,000 troedfedd sgwâr o dai bwyta. Defnyddir yr orsaf gan dros 90,000 o deithwyr yn ddyddiol.[1]
Hanes
golyguAgorwyd yr orsaf ar 27 Hydref 1907 a chwblhawyd gwaith adeiladu ym 1908. Adeiladwyd waliau allanol yr adeilad efo [[gwenithfaen gwyn o Bethel (Vermont). Cynlluniwyd yr orsaf gan Daniel H Burnham a chost yr adeilad oedd 4 miliwn o ddoleri. Daeth yr adeilad yn ganolfan ymwelwyr ar 4 Gorffennaf 1976, ond caewyd ym 1978. Pasiwyd deddf i ailddatblygu'r orsaf ym 1981. Dechreuodd gwaith ar 13 Awst 1986, ac ailagorwyd yr orsaf ar 29 Medi 1988.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-08. Cyrchwyd 2016-12-09.