Maryland
talaith yn Unol Daleithiau America
Mae Maryland yn dalaith yn nwyrain yr Unol Daleithiau, ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'n ymrannu'n ddwy ardal ddaearyddol; gwastadir arfordirol Cefnfor Iwerydd, a ymrennir yn ei thro gan Fae Chesapeake, ac ardal o ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin sy'n rhan o Fryniau'r Alleghenies. Roedd Maryland yn un o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau. Y Saeson oedd yr Ewropeiaid cyntaf i ymsefydlu yno. Fe'i rhoddwyd ganddynt i George Calvert, Baron 1af Baltimore, yn 1632 ac fe'i henwyd yn Maryland ganddo ar ôl ei wraig Henrietta Maria. Yn ddiweddarach roedd yn lloches i Gatholigion yn ffoi erledigaeth yn Lloegr. Annapolis yw'r brifddinas ac mae Baltimore yn borthladd pwysig.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair |
Fatti maschii, parole femine ![]() |
---|---|
Math |
taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl |
Henrietta Maria ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Annapolis ![]() |
Poblogaeth |
6,006,401 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Larry Hogan ![]() |
Cylchfa amser |
Cylchfa Amser y Dwyrain, America/New_York, UTC−05:00, UTC−04:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Kanagawa ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states, Mid-Atlantic ![]() |
Sir |
Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
32,133 km² ![]() |
Uwch y môr |
105 metr, 350 Troedfedd ![]() |
Gerllaw |
Chesapeake Bay, Afon Potomac, Afon Susquehanna, Afon Patuxent, Afon Anacostia, Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Yn ffinio gyda |
Delaware, District of Columbia, Virginia, Gorllewin Virginia, Pennsylvania ![]() |
Cyfesurynnau |
39°N 76.7°W ![]() |
US-MD ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Maryland ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Maryland General Assembly ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Llywodraethwr Maryland ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Larry Hogan ![]() |
![]() | |
Dinasoedd MarylandGolygu
1 | Baltimore | 620,961 |
2 | Frederick | 65,239 |
3 | Rockville | 62,476 |
4 | Gaithersburg | 59,933 |
5 | Bowie | 54,727 |
6 | Annapolis | 38,394 |
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) www.maryland.gov