Gorsaf reilffordd Williton
Mae Gorsaf reilffordd Williton yn orsaf ar Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf. Mae’r orsaf prif fan pasio’r rheilffordd, ac mae’n bron milltir o dref Williton. Mae gweithdy a chanolfan treftadaeth locomotifau diesel a thrydanol yn Williton.[1]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Williton |
Agoriad swyddogol | 1862 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Williton |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.1667°N 3.3092°W |
Hanes
golyguAgorwyd yr orsaf ar 31 Mawrth 1862 gyda un platfform. Ychwanegwyd ail blatfform a thrac ym 1874. Gweithredwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bryste a Chaerwysg. Ym 1922 daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ac ym 1948 yn rhan y Rheilffyrdd Prydeinig. Caewyd y gangen ar 4 Ionawr 1971. Mae bwlch eang rhwng y traciau oherwydd lled gwreiddiol y traciau o 7 troedfedd yn ôl cynllun gwreiddiol Isambard Kingdom Brunel.[2]
Aileni
golyguAilagorwyd y rheilffordd ar 28 Mawrth 1976, ac i Williton ar 28 Awst 1976.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-16. Cyrchwyd 2017-12-04.
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-02. Cyrchwyd 2017-12-04.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr orsaf Archifwyd 2017-10-16 yn y Peiriant Wayback