Gorsaf reilffordd Antwerpen-Centraal

Antwerpen-Centraal (Cymraeg: Antwerp Canolog; Ffrangeg: Gare d'Anvers-Centrale) yw'r brif orsaf reilffordd yn Antwerp, Gwlad Belg. Gweithredir yr orsaf gan Gwmni Rheilffordd Genedlaethol Gwlad Belg (NMBS).

Gorsaf reilffordd Antwerpen-Centraal
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol11 Awst 1905 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Awst 1905 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLine 25 (Infrabel) Edit this on Wikidata
SirAntwerp Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Uwch y môr7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.2169°N 4.4211°E Edit this on Wikidata
Cod post2018 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformau14 Edit this on Wikidata
Rheolir ganNMBS/SNCB Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Nouveau architecture Edit this on Wikidata
PerchnogaethInfrabel Edit this on Wikidata
Statws treftadaethbeschermd monument Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes a phensaernïaeth

golygu

Codwyd adeilad gwreiddiol yr orsaf rhwng 1895 a 1905 er mwyn cymryd lle terfynfa gyntaf y rheilffordd Brwsel-Mechelen-Antwerp. Dyluniwyd yr adeilad gan Louis Delacenserie. Mae'r draphont i mewn i'r orsaf hefyd yn strwythur nodedig a ddyluniwyd gan y pensaer lleol Jan Van Asperen. Mae plac ar y wal ogleddol yn dangos yr enw Middenstatie, mynegiad sydd bellach yn hynafol yn yr iaith Iseldireg.

Mae'r orsaf yn cael ei hystyried yn eang fel yr enghraifft orau o bensaernïaeth reilffordd yng Ngwlad Belg,[1] er bod eclectigiaeth eithaf y dylanwadau ar ddyluniad Delacenserie wedi arwain at anhawster i'w aseinio i arddull bensaernïol benodol. Yn nofel Austerlitz gan W. G. Sebald, defnyddir y gallu i werthfawrogi'r ystod lawn o'r arddulliau a dylanwadodd Delacenserie i ddangos disgleirdeb yr hanesydd pensaernïol ffuglennol sef brif gymeriad y nofel. Oherwydd y cryndo enfawr uwchben neuadd yr ystafell aros, daeth yr adeilad yn adnabyddus fel y "spoorwegkathedraal" ("eglwys gadeiriol y rheilffordd").

Yn 2009 dyfarnodd y cylchgrawn Americanaidd Newsweek Antwerpen-Centraal yn bedwaredd orsaf reilffordd orau'r byd.[2] Yn 2014 dyfarnodd y cylchgrawn Prydeinig-Americanaidd Mashable Antwerpen-Centraal i fod yr orsaf reilffordd harddaf y byd.[3]

Neuadd y trên

golygu

Mae'r neuadd drên haearn a gwydr 185 metr o hyd, ac 44[4] neu 43 metr[5] o uchder. Dyluniwyd yn wreiddiol gan y peiriannydd Clément Van Bogaert[4] ac mae'n gorchuddio ardal o 12,000 metr sgwâr.[5] Roedd uchder yr orsaf yn angenrheidiol ar gyfer gwasgaru mwg locomotifau stêm. Roedd to neuadd y trên wedi'i wneud o ddur yn wreiddiol.[5]

Difrod ac adferiad yr Ail Ryfel Byd

golygu

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, achoswyd difrod difrifol i neuadd y trên gan rocedi V-2. Serch hynny, yn ôl Cwmni Rheilffordd Genedlaethol Gwlad Belg, roedd sefydlogrwydd strwythurol yr adeilad yn iawn.[6] Ond, honnwyd bod yr is-strwythur wedi'i anffurfio oherwydd effaith y rocedi V-2, ac wedi achosi straen adeiladol.[5][7] Mae'r effaith yn weladwy hyd heddiw trwy'r anffurfiad-ton yn nho'r neuadd.[6] Yng nghanol yr 20g, roedd cyflwr yr adeilad wedi dirywio i'r pwynt ystyriwyd ei ddinistrio. Caewyd yr orsaf ar 31 Ionawr 1986 am resymau diogelwch, ac ar ôl hynny gwnaed gwaith adfer i'r to a'r ffasadau o fis Mawrth 1986 i fis Medi 1986.

Ehangiad ar gyfer trenau cyflym

golygu

Ym 1998 dechreuodd gwaith ailadeiladu ar raddfa fawr er mwyn drawsnewid yr orsaf o derfynfa i orsaf drwodd. Cloddiwyd twnnel rhwng gorsaf Antwerpen-Berchem yn ne'r ddinas a gorsaf Antwerpen-Dam yn y gogledd, yn pasio o dan orsaf Centraal, gyda phlatfformau ar ddwy lefel danddaearol. Mae hyn yn caniatáu i drenau cyflym Thalys, HSL 4 a HSL-Zuid deithio trwy Antwerpen-Centraal heb yr angen i droi o gwmpas (roedd y cynllun blaenorol yn gorfodi trenau Amsterdam-Brwsel i alw yn Antwerpen-Berchem yn unig neu deithio am yn ôl yn Centraal).

Cwblhawyd prif elfennau'r prosiect adeiladu yn 2007, a chynhaliwyd y trenau trwodd cyntaf ar 25 Mawrth 2007.[8] Enillodd wobr Grand Prix yng Ngwobr yr Undeb Ewropeaidd am Dreftadaeth Ddiwylliannol / Gwobrau Europa Nostra yn 2011.[9][10]

Cynllun yr orsaf

golygu

Mae gan yr orsaf bedair lefel a 14 trac wedi'u trefnu fel a ganlyn:

  • Lefel +1: Yr orsaf wreiddiol, 6 thrac terfynu, wedi'i threfnu fel dau grŵp o dri ac wedi'i gwahanu gan agoriad canolog sy'n caniatáu golygfeydd o'r lefelau is,
  • Lefel 0: Gwasanaethau tocynnau a gofod masnachol,
  • Lefel −1: 7m o dan lefel y stryd, 4 trac terfynu, wedi'u trefnu mewn dau bâr wedi'u gwahanu gan yr agoriad canolog,
  • Lefel −2: 18m o dan lefel y stryd, 4 trac trwyddo, yn arwain at ddau drac y twnnel o dan y ddinas (y defnyddir gan drenau cyflym a gwasanaethau domestig tuag at y gogledd).

Cyfeiriadau 

golygu
  1. "Antwerpen-Centraal is mooiste station ter wereld" (yn Dutch). 25 Awst 2014. Cyrchwyd 25 Ionawr 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Stations: A Destination That Matches the Journey, Newsweek, 10 Ionawr 2009
  3. All Aboard! 12 Beautiful Railway Stations From Around the World, Mashable, 25 Awst 2014
  4. 4.0 4.1 Maraite, Louis. "Antwerp Central Station is linking history and future!". The Best in Heritage. SNCB-Holding. Cyrchwyd 14 September 2016.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Goethals, Violette. "Projects". Federplast.be. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2016. Cyrchwyd 14 September 2016.
  6. 6.0 6.1 Erik Sclep, gol. (Mai 2011). "Welcome To Antwerp Centraal. The Railway Cathedral of the 20th and 21st century" (PDF). SNCB Holding (la Gare / het Station) National Railway Company of Belgium.
  7. Violette Goethals, "Projects". Federplast.be. Archived from the original on 14 September 2016. Retrieved 14 Medi 2016
  8. "Antwerpen Centraal fully open", Today's Railways Europe 146 (Chwefror 2008), t.7
  9. "EU Prize for Cultural Heritage / Europa Nostra Awards 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 June 2014.
  10. http://europa.eu/rapid/press-release_IP-11-695_en.htm