Grŵp ethnig
grŵp cymdeithasol o bobl sy'n uniaethu â'i gilydd ar sail llinach gyffredin (go iawn neu ddychmygol), hanes cyffredin, diwylliant cyffredin neu brofiad cyffredin
Mae ethnigrwydd a chrefydd yn rhan o ddiwylliant unigolyn. Mae ethnigrwydd yn cyfeirio at y grŵp mae pobl yn credu eu bod yn perthyn iddo, drwy genedl, crefydd, iaith a/neu hil. Er enghraifft, gall trigolion gwlad fod o'r un hil a siarad yr un iaith ond os oes ganddynt wahanol grefyddau efallai byddant yn eu gweld eu hun fel grwpiau ethnig gwahanol.
Yn aml bydd gwahaniaethu’n dylanwadu ar ddatblygiad aelodau o wahanol grwpiau ethnig: e.e. gallant gael eu trin yn annheg oherwydd hil, crefydd neu ffactorau eraill. Efallai na fydd ganddynt cystal mynediad i addysg, neu i nwyddau a gwasanaethau, oherwydd rhwystrau iaith neu wahaniaethau yn eu harferion a'u credau.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)