Grace Annie Lockhart
Grace Annie Lockhart (22 Chwefror 1855 – 18 Mai 1916) oedd y wraig gyntaf yn yr Ymerodraeth Brydeinig i ennill gradd Baglor. Cofrestrodd yn ffurfiol ym Mhrifysgol Mount Allison yn Sackville, Brunswick Newydd, Canada yn 1874 ac enillodd radd Baglor mewn Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth Saesneg ar 25 Mai 1875. Treuliodd ei bywyd wedi hynny mewn modd mwy confensiynol, a hynny fel gwraig i'r gweinidog Methodistaidd JL Dawson.
Grace Annie Lockhart | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1855 Saint John |
Bu farw | 18 Mai 1916 Canada, Charlottetown |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person dysgedig |
Honir ei bod o blaid sicrhau hawliau llawn i ferched ym maes addysg uwch.[1] [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Grace Annie Lockhart – The Canadian Encyclopedia
- ↑ "Grace Annie Lockhart – a Mount Allison and Canadian heroine | Mount Allison". mta.ca (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-22.