Bod dynol benywaidd aeddfed yw dynes neu fenyw (woman yn Saesneg) (mewn cyferbyniaeth â dyn) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig. Mae'n tarddu o'r gair dyn a olygai'n wreiddiol ‘bod dynol’. Lluosog y gair dynes yw merched neu wragedd.

Dynes
Mathoedolyn, bod dynol benywaidd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdyn Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganmerch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Genedigaeth Gwener 1862 gan Eugène Emmanuel Amaury-Duval

Benywdod yw'r cyfnod ym mywyd y ddynes ar ôl iddi fynd drwy blentyndod, glasoed a llencyndod. Mae gan wahanol wledydd ddeddfau gwahanol, ond ystyrir yn aml 18 oed y llawn oed (yr oed pan ddaw person oedolyn cyfreithiol).

Defnyddir y geiriau hogan, merch a geneth (ll. genod) i gyfeirio nid yn unig at blentyn benyw neu lances yn gyffredinol, ond hefyd at ddynes weithiau. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!

Ceir yn ogystal y term gwraig i ddynodi dynes briod, hen ferch (hyfed hen lances) i ddynodi dynes ddi-briod dros yr oed confensiynol i briodi a gweddw i ddynodi gwraig sydd wedi colli ei gŵr.

Defnydd pellach o'r gair

golygu
  • hen wraig(en) = old woman
  • pladres o ddynes = a large woman
  • Cymorth i Fenywod = Women's Aid
  • Sefydliad y Merchaid = Women's Institute
  • meddyges = woman doctor

Bioleg a rhyw

golygu

Mae system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys:

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. wygell (ofari)
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. bwa ôl
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws
 

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am dynes
yn Wiciadur.