Graffiti giang Americanaidd yn Irac
Graffiti giang Americanaidd yn Irac yw graffiti gan aelodau o giangau stryd o'r Unol Daleithiau sy'n gwasanethu yn lluoedd arfog America yn Irac. Recriwtiwyd yr aelodau giang fel milwyr gan yr awdurdodau Americanaidd heb wybod o flaen llaw, fe ymddengys, eu bod yn perthyn i giangau stryd a chawsant eu hanfon i Irac i ymladd yn y rhyfel yno, a ddechreuodd yn 2003.
Ymhlith y giangau stryd mwyaf a gynrychiolir yn Irac y mae'r Gangster Disciples, Black Disciples, Latin Kings, Vice Lords, a'r Black P. Stones, a'u gwreiddiau mewn rhai o ardaloedd geto mwyaf difreintiedig a threisgar Chicago.[1][2][3] Ceir adroddiadau hefyd am aelodau o'r Aryan Nations, yr Aryan Brotherhood a'r Ku Klux Klan yn paentio graffiti in Irac.[4].
Mae'r Christian Science Monitor yn adrodd fod graffiti gan ddinesyddion Iracaidd wedi blodeuo yn Irac ers cwymp llywodraeth Saddam Hussein hefyd.[5] Dan régime Saddam cosbid ysgrifenwyr graffiti'n llym gan yr awdurdodau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gangs claim their turf in Iraq, Chicago Sun-Times, 1 Mai 2006
- ↑ Military-Trained Gang Members Worry Police Archifwyd 2011-08-04 yn y Peiriant Wayback, ABC News, 3 Mai 2006
- ↑ US troops lose their morale, sanity in Iraq and live on antidepressants, Pravda, 16 Mai 2006
- ↑ [1] Archifwyd 2007-01-11 yn y Peiriant WaybackRacist extremists active in U.S. military Archifwyd 2010-02-03 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Once forbidden, graffiti flowers in Baghdad, Christian Science Monitor, 8 Chwefror 2004